Mae’r cyfyngiadau’n golygu bod rhaid cau campfeydd, pyllau nofio, cyrtiau tenis, canolfannau saethu a saethyddiaeth a chanolfannau marchogaeth.
Fydd dim modd cynnal campau tîm na golff yn Lloegr ond mae’r rheolau’n wahanol yn yr Alban, lle mae modd i grwpiau bach gyfarfod.
Yn yr Alban, bydd modd i glybiau rygbi a phêl-droed ar bob lefel barhau i ymarfer a chwarae a bydd para-chwaraeon hefyd yn cael parhau.
Bydd Uwch Gynghrair Lloegr a’r Gynghrair Bêl-droed yn cael chwarae o hyd, sy’n golygu Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, ond bydd rhaid i’r Gynghrair Genedlaethol ddod i ben ac felly fydd Wrecsam ddim yn cael chwarae.