Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi cyhoeddi bod Nathan Craig yn gadael y clwb.

“Mae Nathan wedi penderfynu gadael y clwb er mwyn chwilio am her newydd,” meddai cyfrif swyddogol y clwb ar Trydar.

Daw hyn ar ôl i gyn rheolwr y clwb Sean Eardley adael er mwyn symud yn ôl i’w dref enedigol a rheoli Clwb Pêl-droed Llandudno.

Mae Nathan Craig, a gafodd ei fagu tafliad carreg i ffwrdd o’r Oval ac sy’n gyn-chwaraewr Everton a thîm rhyngwladol dan 21 Cymru, wedi treulio dau gyfnod yn chwarae i’r Cofis, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2012, cyn symud Torquay United a threulio cyfnod ar fenthyg gyda Dorchester Town.

Yna, dychwelodd i’r clwb yn 2014 ac mae wedi bod yn rhan allweddol dros y blynyddoedd diwethaf wrth i’r Cofis esgyn i’r Uwchgynghrair a pherfformio’n dda.

Mewn datganiad, dywedodd y Clwb:

“Mae Nathan wedi cynrychioli ei glwb tref enedigol ar ddau gant o achlysuron, ac wedi sgorio wyth deg dwy o goliau. Mae hefyd wedi bod yn Bennaeth prosiect Pêl-droed yn y Gymuned y clwb ers 2015.

Fe wnaeth Nathan yn glir i ni nad oedd yn benderfyniad hawdd gadael y clwb lle mae wedi sefydlu ei hun fel arwr, ond mae’n teimlo bod yr amser yn iawn ar gyfer her newydd.

Hoffai pawb yn yr Oval ddiolch i Nathan am ei wasanaeth gwych i’r clwb a dymunwn yn dda iddo yn y dyfodol. Pob lwc Nathan!”

A dywedodd Nathan Craig:

“Dwi wedi bod yn meddwl yn galed drost yr wythnosau diwethaf ynglŷn â fy lle yng ngharfan Caernarfon. Mae wedi bod yn amser caled o bwyso a mesur a dydi’r penderfyniad heb fod yn un hawdd i’w wneud.

Mae tîm Caernarfon wedi bod yn fy nghalon erioed a hogyn Caernarfon fyddai. Dwi yn teimlo fy mod wedi llwyddo ym mhopeth dwi wedi ei wneud i Gaernarfon ac yn teimlo ei fod yn amser i symud ‘mlaen am her newydd.

Rydwi yn dallt fod hyn ella yn siom i lawer sydd yn gysylltiedig â Chaernarfon a gedraf ddim diolch digon i bawb am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd o’r backroom staff, y chwaraewyr dwi wedi cael y pleser o chwarae hefo ond yn enwedig i’r Cofi Army. Grŵp arbennig iawn o bobl sydd hefo lle arbennig yn fy nghalon.

Mae wedi bod yn fraint cael cynrychioli fy nghlwb lleol dros y blynyddoedd a hefyd fod yn gapten. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod di gael y cyfle i fod yn Swyddog Pêl Droed yn y Gymuned i’r clwb, datblygu sgiliau’r plant lleol ac yn fraint eu gweld yn llwyddo ac yn magu hyder.

Dymunaf bob lwc i Huw, Fish a phawb sydd yn gysylltiedig â’r clwb i’r dyfodol!”