Gareth Miles (llun o wefan Gwales)
Mae un o brif ddramodwyr Cymru wedi ei siomi gan benderfyniad y Theatr Genedlaethol i beidio llwyfannu drama wreiddiol ganddo, ac mae’n bygwth rhoi’r gorau i sgwennu dramâu yn gyfan gwbwl.
Yr wythnos nesa’ mi fydd y Theatr Genedlaethol yn cyfweld ag ymgeiswyr ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Artistig ar ôl cyfnod adolygu ers ymadawiad Cefin Roberts flwyddyn yn ôl.
“O ystyried mai gwendid mwyaf Cefin Roberts oedd nad oedd yn comisiynu dramâu gwreiddiol, dw i yn siomedig dros ben yn naturiol,” meddai’r dramodydd Gareth Miles a oedd wedi sgrifennu drama newydd wedi’i lleoli ym Mhatagonia am deulu Cymraeg yng nghyfnod yr unbennaeth rhwng 1976 a 1982.
“Mewn proses o ddewis a dethol,” meddai Branwen Cennard o is-bwyllgor artistig y Theatr Genedlaethol, “penderfynwyd yn unfrydol i beidio â datblygu drama Gareth Miles ymhellach.
“Mae llawer o bobol yn hala syniadau aton ni. Dydi hi ddim mor gyffredin hala drama orffenedig, ac yn sicr mae hi yn anghyffredin hala ail ddrafft.”
Dywedodd Gareth Miles ei fod yn ystyried rhoi’r gorau i sgrifennu dramâu, gan amau efallai nad yw e’n gweddu i “chwaeth yr oes”.
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 17 Chwefror