Mae aelodau cast gwreiddiol y sioe gerdd Deffro’r Gwanwyn wedi ail-greu’r gân ‘Hâf ein Hiraeth’ er mwyn codi arian ar gyfer Tarian Cymru.

Bron i ddeng mlynedd ers i addasiad Cymraeg y sioe Broadway Spring Awakening fynd ar daith gyda Theatr Genedlaethol Cymru, mae 16 o’r actorion wedi dod at ei gilydd ar-lein i recordio’r gân oedd yn cloi’r sioe Gymraeg.

Mae’r elusen Tarian Cymru wedi bod yn darparu cyfarpar diogelu personol i weithwyr gofal iechyd a gweithwyr cartrefi gofal yn ystod y pandemig coronafeirws.

“Ar ôl siarad efo aelod o dîm Tarian Cymru a chlywed am y diffyg offer gwarchodol i staff iechyd a gofal sy’n dal i fod ar draws Cymru, es i ati i feddwl am ffordd o gasglu prês i’r elusen,” meddai Meilir Sion Williams, un o’r cast sydd hefyd wedi cydlynu’r recordio.

“Mi gysylltais efo’r cast i gynnig y syniad, ac o fewn ychydig oriau, roedd pawb yn gytûn ac awyddus i ganu cân olaf y sioe ‘Haf Ein Hiraeth’ er budd Tarian Cymru.”

Recordio ar y we

Bu’n rhaid i’r actorion, sy’n cynnwys Lynwen Haf Roberts, Nia Ann, Berwyn Pearce, Daniel Lloyd, Sion Ifan, Ceri Lloyd, Ffion Dafis, ac Elain Lloyd, recordio’r gan ar y we yn sgil y pandemig coronaferiws a mesurau hunan ynysu.

“Rydym i gyd fel criw yn falch o’r ymateb i’r fideo ac yn gobeithio y bydd hi’n gymorth i godi ymwybyddiaeth ac i gasglu arian i elusen Tarian Cymru.”

Nid dyma’r gân gyntaf i gael ei rhyddhau i godi arian i Tarian Cymru yn ystod yr argyfwng.

Ar Ebrill 16, rhyddhaodd y cerddor Carwyn Ellis drac newydd, Cherry Blossom Promenade, gyda’r holl elw yn mynd i’r fenter wirfoddol.