Mae un o ddigwyddiadau Gŵyl Gomedi Machynlleth wedi torri record byd am y nifer fwyaf erioed o ymwelwyr â thafarn rithwir.
Cafodd yr ŵyl flynyddol ei chanslo eleni yn sgil y coronafeirws ond ar noson gynta’r ŵyl rithwir neithiwr, cynhaliodd Kiri Pritchard-McLean gwis tafarn yn y ‘Covid Arms’.
Cymerodd mwy na 6,000 o bobol ran yn y digwyddiad rhyngweithiol, gan gynnwys llu o ddigrifwyr oedd i fod i gymryd rhan yn yr ŵyl eleni, gan gynnwys Nish Kumar, Russell Howard, Joel Dommett a Jon Richardson.
Cafodd bron i £33,000 ei godi ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd fel rhan o’r digwyddiad trwy wefan Crowdfunder, ac mae Guinness World Records wedi cadarnhau’r record byd.
Roedd cyfle i bobol gymryd rhan yn y cwis o’u cartrefi am rodd o £2, gyda ‘seddi cadw’ yn cael eu cynnig am £10, gyda’r cyfle i ddeiliaid y ‘tocynnau’ hynny gyfathrebu â’r digrifwyr trwy gyfrwng Zoom.
“Mae’n swyddogol,” meddai neges ar dudalen Twitter ‘Comedy at the Covid Arms’.
“Rydyn ni’n ddeiliaid record byd @GWR Guinness.
“Diolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o’n digwyddiadau. Rydyn ni’n eich caru chi xxxx.”
Digwyddiadau ar y gweill
Yn ystod y penwythnos, mae nifer o raglenni arbennig yn cael eu darlledu ar Radio Wales.
Neithiwr, ar noson gynta’r ŵyl, roedd rhaglen yn olrhain deng mlynedd gynta’r ŵyl.
Heddiw am 1.30yp, bydd rhaglen arbennig Live from Lockdown yn cynnwys setiau byr gan ddigrifwyr fel Carys Eleri, Tarot, Lolly Adefope a Jordan Brookes.
Am 1.30yp yfory (dydd Sul, Mai 3), bydd rhaglen Stand up… in my house yn cynnwys setiau gan ddigrifwyr o’u cartrefi eu hunain.