Mae Cyfarwyddwr Artistig newydd y Sherman, Joe Murphy, wedi cyhoeddi ei dymor cyntaf o ddramâu wrth y llyw.
Yn ei raglen mae’n addo cynnwys saith drama gan sgriptwyr o Gymru, neu sgriptwyr sy’n byw yng Nghymru.
Mae’r cwmni hefyd yn cyhoeddi noddwr newydd, sef yr actor Rhys Ifans a fu’n perfformio yng nghynhyrchiad mawr diweddar y cwmni ar y cyd â’r Royal Court yn Llundain, On Bear Ridge gan Ed Thomas.
Bydd Rhys Ifans yn hyrwyddo’r ymgyrch ‘Mabwysiadu Sedd’ er mwyn helpu i gefnogi ymdrechion y Sherman fel elusen gofrestredig i gynyddu incwm drwy roddion gan ymddiriedolwyr ac unigolion.
“Mae’n hyfryd cael gofod fel y Sherman wrth galon y ddinas,” meddai Rhys Ifans mewn datganiad.
Ibsen
Y cynhyrchiad cyntaf i Joe Murphy ei hun ei gyfarwyddo fydd fersiwn newydd gan y dramodydd Brad Birch – sy’n wreiddiol o Landrindod -ym mis Ebrill 2020 o ddrama Ibsen, An Enemy of the People. Bydd hefyd yn cyfarwyddo fersiwn gan Gary Owen o A Christmas Carol ym mis Tachwedd 2020.
Y sgriptwyr eraill a fydd yn rhan o’r tymor newydd fydd Katherine Chandler, Tracy Harris, Dafydd James, a Lisa Parry.
Cyfarwyddwr Cyswllt yr Old Vic yn Llundain oedd Joe Murphy cyn ymuno â’r Sherman, ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio yn llawrydd mewn theatrau sefydledig eraill.
“Mae’n gyffrous iawn cael lansio blwyddyn lawn o waith a dathlu dyfnder ansawdd artistig Cymru,” meddai’r Cyfarwyddwr mewn datganiad. “Yr artistiaid a gaiff eu hyrwyddo yma yw dechrau ein hymrwymiad i fod yn bwerdy i ddoniau o Gymru.
“Mae Tymor 2020 yn rhoi’r gynulleidfa wrth ei galon, gan gynnig straeon emosiynol ac effeithiol sydd wedi’u gwreiddio yng Nghymru, ond sy’n berthnasol i’r byd. Mae’r theatr hon yn eiddo i bobol anhygoel ein dinas wych: rhywle i gwrdd, i rannu profiadau byw, ac i ddathlu ein diwylliant. I fi, dyma galon Caerdydd.”
Y pedair drama wreiddiol fydd dramau Dafydd James (Tylwyth), Tracy Harris (Ripples), Lisa Parry (The Merthyr Stigmatist) a Gary Owen (Romeo and Julie).
Cyfarwyddwr Cymreiciach?
Mae Joe Murphy yn olynu Rachel O’Riordan, a adawodd i fod yn Gyfarwyddwr Artistig y Lyric Hammersmith yn Llundain wedi pum mlynedd yn y Sherman.
Yn ystod ei chyfnod hi, cafodd y Sherman ei beirniadu gan garfan amlwg o ymarferwyr y theatr Gymraeg a Chymreig, gydag actorion amlwg fel Sharon Morgan yn dweud yn y wasg ei bod hi’n “warth” nad oedd y theatr yn cynnig adnodd datblygu sgriptiau yn y Gymraeg ers diflaniad Sgript Cymru.
Pan gafodd Joe Murphy ei benodi ym mis Mawrth eleni, dywedodd Sharon Morgan wrth golwg360 ei bod hi’n ei groesawu i’r swydd, gan obeithio y byddai’n “datblygu a meithrin sgwennwyr, cyfarwyddwyr ac actorion Cymreig… Ond y cwestiwn mawr o hyd yw pam nad oes gennym ni Gymry yn rhedeg ein prif sefydliadau celfyddydol? “Erbyn diwedd ei chyfnod roedd yn ymddangos bod Rachel O’Riordan wedi deall ei bod hi mewn gwlad arall, ddwyieithog.
Mae datganiad Joe Murphy yn cynnwys ymwybyddiaeth o hynny a phwysigrwydd y Gymraeg, sy’n dangos bod y gwaith gwnaethom ni fel cymuned artistig wedi dwyn ffrwyth.”