Daeth cadarnhad fod Canolfan Gelfyddydau’r Muni Pontypridd wedi cau ei drysau am y tro olaf yn sgil trafferthion ariannol.
Fe fu’r ganolfan yn wynebu problemau ariannol ers tair blynedd, ac fe ddaeth yn gwmni cyfyngedig ac yn elusen ar ôl cau’n wreiddiol yn 2014.
Mae undeb GMB wedi beirniadu’r cyhoeddiad “gwarthus” dridiau cyn y Nadolig, wrth i staff gael gwybod eu bod nhw’n colli eu swyddi.
Datganiad
Roedd y ganolfan dan reolaeth Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf tan 2015, pan gafodd ei throsglwyddo i’r gymuned.
Ond fe wynebodd drafferthion ariannol fyth ers hynny.
“Heb arian craidd, doedden ni ddim wedi gallu gwireddu ein gweledigaeth,” meddai’r ganolfan mewn datganiad ar Facebook.
“Yn anffodus, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fe gynyddodd y dyledion yn sylweddol ac fe ddangosodd archwiliad annibynnol o’r cyfrifon ein gwir sefyllfa ariannol, oedd wedi dod yn anghynaladwy.”
Ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu’r penderfyniad mae Yvonne Murphy, cyfarwyddwr artistig y ganolfan.
“Dyma stori am reolaeth a phenderfyniadau gwael,” meddai.