Fe fydd blas Cymreig i’r ail Ŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru sy’n cael ei chynnal yn Abertawe dros ddeuddydd yr wythnos hon, meddai’r prif drefnydd wrth golwg360.
Cwmni ffilm Tanabi yn y ddinas sy’n trefnu’r digwyddiad di-elw yn Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin ar gampws Prifysgol Abertawe, fel rhan o bartneriaeth gyda’r brifysgol i roi llwyfan i actorion a gwneuthurwyr ffilm o Gymru gael arddangos eu gwaith i gynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol.
Bydd yr ŵyl yn dangos 50 o ffilmiau o feysydd ffilmiau nodwedd, ffilmiau byrion ac animeiddio, a nifer o’r categorïau’n gofyn am ffilmiau sydd naill ai wedi’u lleoli yng Nghymru neu wedi’u ffilmio yng Nghymru.
Yn ystod yr ŵyl, fe fydd cyfle i flasu gweithdai gyda nifer o bobol yn y diwydiant ffilm.
Yn eu plith mae Katherine John, awdures ffilm Tanabi By Any Name, ffilm nodwedd a gafodd ei ffilmio yn ardaloedd Abertawe a Bannau Brycheiniog. Bydd hi’n cyflwyno gweithdy ar sgriptio ar gyfer ffilmiau.
Bydd prif actores y ffilm honno, Samira Mohamed Ali yn cyflwyno gweithdy ar gynhyrchu a chastio, a’r uwch-gynhyrchydd a phennaeth cwmni Tanabi, Euros Jones-Evans yn cyflwyno gweithdy ar ariannu a dosbarthu ffilmiau.
Bydd un o gyfarwyddwyr yr ŵyl, Georgios Dimitropoulos yn cyflwyno gweithdy ar sut i greu ffilm fer.
Noson wobrwyo a chodi arian
Mae’r ŵyl wedi derbyn ffilmiau o fwy na 30 o wledydd ar gyfer 17 categori o ffilmiau, gyda 26 o wobrau’n cael eu rhoi yn ystod y noson wobrwyo, sy’n cynnwys gwobr am y ffilm fer orau (hyd at 45 munud) sydd wedi’i lleoli yng Nghymru.
Bydd y noson honno wedi’i chyflwyno gan y darlledwr lleol adnabyddus, Kev Johns, lle bydd arian hefyd yn cael ei godi at yr elusennau lleol, canolfan ganser Maggie’s yn Ysbyty Singleton ac elusen addysg SNAP Cymru.
Yn ôl Euros Jones-Evans, mae’r trefnwyr yn falch o groesawu Kev Johns unwaith eto eleni.
“Roedd o’n wych yn ei wneud o flwyddyn dwytha. Mae o’n gallu troi ei law at rywbeth. Mae pawb yn licio fo, mae’n tynnu ’mlaen efo pawb a doeddan ni ddim yn gallu meddwl am foi gwell i’w wneud o.”
Ceisio tyfu’r ŵyl
Mae gan drefnwyr yr ŵyl gynllun pum mlynedd ar ei chyfer, ac mae ei thyfu yn rhan ganolog o fywyd y brifysgol yn rhan o’r cynllun hwnnw, meddai Euros Jones-Evans.
“Hon ydi’r flwyddyn gynta’ ym Mhrifysgol Abertawe – yng Nghanolfan Dylan Thomas oeddan ni flwyddyn dwytha’. Y syniad ydi trio tyfu’r ŵyl ac i dyfu i mewn i’r Taliesin i gael myfyrwyr yno. Mae symud i’r brifysgol yn gam da ymlaen, gan ein bod yn cydweithio â’r Ysgol Reolaeth.”
Mae’r trefnwyr hefyd yn gobeithio manteisio ar gynlluniau ar gyfer Rhanbarth Digidol yn y ddinas, a fydd yn cynnwys arena dan do newydd sbon. Fe fydd yn buddsoddi £1.3 biliwn mewn 11 o brosiectau mawr ar draws y ddinas a’r de orllewin.
Ychwanegodd Euros Jones-Evans, “Den ni’n gobeithio tyfu’r ŵyl fel bo ni’n gallu mynd i fanne o fewn y tair neu bedair blynedd nesa’. Y cynllun yw ei fod yn blatfform i bobol o Gymru ac yn rhyngwladol ddatblygu talent, a mynd yn fwy digidol o’r flwyddyn nesa’ ymlaen.”