Mae trefnydd gŵyl gomedi newydd yn Aberystwyth yn dweud wrth golwg360 y bydd yr ŵyl yn cynnwys sioe gala Gymraeg gyda rhai o ddigrifwyr blaenllaw’r sîn – a’r cyfan o dan arweiniad Tudur Owen.
Y penderfyniad eleni, meddai, yw cynnal un sioe Gymraeg yn y gobaith y bydd mwy o sioeau unigol yn y dyfodol.
“Yn y flwyddyn gyntaf, fe wnawn ni arddangos doniau nifer o ddigrifwyr ry’n ni’n credu yw’r goreuon sy’n torri drwodd ymhlith y lleisiau Cymraeg.
“Y flwyddyn ganlynol, mae’n bosib y bydd rhai o’r digrifwyr hynny’n dod â’u sioeau unigol aton ni. Bydd y cyfan, i raddau, yn dibynnu ar faint y gynulleidfa hefyd.
“Ry’n ni’n credu hefyd mewn cyflwyno’r gynulleidfa i artistiaid na fyddan nhw, o bosib, wedi’u gweld o’r blaen. Bydd yr arlwy’n tyfu’n raddol dros y blynyddoedd, ond bydd y Gymraeg i’w gweld yn gryf yn yr ŵyl.”
Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan gwmni Little Wander, cwmni Henry Widdicombe, sydd hefyd yn trefnu Gŵyl Gomedi Machynlleth. Bydd hi’n cael ei chynnal am y tro cyntaf erioed rhwng Hydref 5 a 7 gyda nawdd fel rhan o brosiect ‘Blwyddyn y Môr’ Croeso Cymru.
Blwyddyn y Môr
Oni bai am y nawdd sydd ar gael yn sgil Blwyddyn y Môr, dydy Henry Widdicombe ddim yn credu y byddai’n bosibl cynnal ail ŵyl gomedi yn yr ardal.
“Fe ddeilliodd y cyfle o brosiect Croeso Cymru, ac fe gawson ni gefnogaeth ariannol i ddatblygu’r ŵyl. Allen ni ddim bod wedi meddwl am ddatblygu’r digwyddiad heb y gefnogaeth honno.
“Mae ein holl leoliadau ar lan y môr. Oherwydd mai tref prifysgol yw Aberystwyth a bod cwrs drama yn y brifysgol, mae lleoliadau hyfryd yno – Arad Goch, yr Hen Goleg, Canolfan y Celfyddydau, Theatr y Castell, sinema’r Commodore, a’r Coliseum. Ac mae mae modd troi’r pier yn lleoliad comedi yn hawdd iawn hefyd.
“Dyna’r gwahaniaeth rhwng Aberystwyth a Machynlleth hefyd. Yn Aberystwyth, bydd gyda ni leoliadau parod, lle does dim lleoliadau comedi pwrpasol gyda ni ym Machynlleth.”
‘Cam naturiol’ oedd datblygu ail ŵyl
Dywed Henry Widdicombe mai “cam naturiol” oedd datblygu ail ŵyl yn Aberystwyth, “lle gwahanol iawn” i Fachynlleth.
“Mae’r brifysgol yn rhan bwysig o ymdeimlad o dref yn Aberystwyth, ac mae modd i’r ddau le gadw eu personoliaethau gwahanol eu hunain – un yn y gwanwyn a’r llall yn yr hydref.”
Dywedodd ei fod e am ddewis tref lle byddai’r ŵyl yn gallu cael ei chynnal ochr yn ochr â bywyd bob dydd y dref.
“Roedden ni am gael lleoliad fyddai’n sefyll allan. Roedden ni’n gwybod y gallen ni fynd i dref fach ac adeiladu rhywbeth er mwyn creu argraff fel eich bod yn hollol ymwybodol fod rhywbeth yn digwydd yno.”
‘Dechrau o’r dechrau – rhaid cropian cyn cerdded’
Tra bod Gŵyl Gomedi Machynlleth wedi tyfu’n sylweddol dros y degawd ers ei sefydlu – o 500 o ymwelwyr yn y flwyddyn gyntaf i 7,500 y llynedd – mae Henry Widdicombe wedi rhybuddio bod angen i’r ŵyl newydd hon “ddechrau o’r dechrau”.
“Yr hyn gewch chi yn Aberystwyth yw llety llawer mwy o faint a llawer iawn mwy o wasanaethau na Machynlleth. Dros gyfnod o amser, mae’r potensial yna i’w dyfu y tu hwnt i Fachynlleth, hyd yn oed.
“Ond mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwybod o’r dechrau y bydd yn 10% o faint Gŵyl Gomedi Machynlleth. Yr hyn ry’n ni wedi’i ddysgu dros bymtheg mlynedd yw fod angen gosod y seiliau er mwyn denu pobol.
“Fe gymerodd ddeng mlynedd i dyfu Machynlleth a thra bydd rhai elfennau i’w gweld yn syth yn Aberystwyth, ry’n ni’n ofalus iawn o ran ein disgwyliadau ar gyfer y digwyddiad. Rhaid cropian cyn cerdded.”
Digrifwyr newydd
Tra bod dros 200 o sioeau’n cael eu cynnal dros benwythnos ym Machynlleth, bydd y nifer ar gyfer gŵyl gyntaf Aberystwyth yn nes at 50.
“Fyddech chi ddim o reidrwydd yn cael digon o gynulleidfa [ar gyfer 200 o sioeau yn Aberystwyth]. Rhaid i chi gamu’n ôl a meddwl am y tymor hir a lles y digwyddiad er mwyn ei adeiladu’n raddol.”
Yn ogystal ag enwau cyfarwydd fel Josh Widdicombe a Gary Delaney, fe fydd llwyfan yn Aberystwyth i enwau llai cyfarwydd fel William Andrews – ac mae Henry Widdicombe yn credu’n gryf y dylai’r digwyddiad newydd roi llwyfan i ddigrifwyr newydd a llai adnabyddus.
“Mae proffil rhywun yn llai pwysig yma. Mae gyda ni bobol fel William Andrews sydd wedi bod yn creu argraff yng Nghaeredin, ond hefyd digrifwyr Cymreig fel Kiri Pritchard-McLean sy’n torri drwodd.”