Sarah-Louise Rees, actores o'r Rhondda
Mae actores ifanc o’r Rhondda yn mynd i glyweliadau am waith actio ar hyn o bryd ac yn ceisio dirnad effaith llefaru ar ei gwaith.
Mae Sarah-Louise Rees yn cael ei chynrychioli gan gwmni Reegan Management ac yn cydnabod dylanwad ei harferion llefaru wedi iddi gydio yn y grefft pan oedd yn 14 oed.
Er hyn, mae’n ystyried yn y blog fideo hwn a yw’r arferion wedi treiddio i isymwybod actorion sydd â phrofiad o lefaru – efallai wrth gario brawddegau, rhoi pwyslais ar ambell air, a chymryd seibiau.
Llefaru wrth actio
Dywed fod modd i lefaru ddylanwadu ar actorion ac – “o fy mhrofiad personol i, gallaf weld o ble mae’r cwestiwn yn codi.”
Esboniodd ei bod yn medru rhoi ei hun “mewn bocs ac anghofio amdani” wrth actio cymeriad sy’n hollol wahanol iddi hi ei hun.
“Ond os ydw i’n gwneud rhywbeth eithaf clasurol, lle mae’r darn yn adlewyrchu cerdd… yna fi’n ffeindio fy hun yn slipio’n ôl i siarad fel fy mod i’n llefaru.”
‘Ar wahân’
Yn ôl Sarah-Louise Rees “mae’n bwysig” i gadw actio a llefaru ar wahân, ac mae’n cynnig enghreifftiau i bwysleisio’r gwahaniaeth.
Yn y darn cyntaf mae’n perfformio cyflwyniad theatrig ar sail stori fer ‘Setlo’ o gyfrol Saith Oes Efa gan Lleucu Roberts, ac yna’n llefaru’r gerdd ‘Pen Bryn Copa’.
Tynnu ar y grefft
Er hyn, mae’r actores yn cydnabod fod modd i lefaru gyfoethogi dawn actorion wrth “dynnu ar arferion y grefft o lefaru a hwpo nhw mewn i berfformiad clasurol fach yn slei a naturiol.”
“Ond ar y cyfan, bydden i’n dweud bod e’n grefft bron â bod yn ei hunan i berfformwyr allu cadw llefaru yn un dalent ac actio yn dalent arall.”
“Mae yna ddigonedd o dalent yng Nghymru sydd yn llefaru ac yn actio ac yn ddigon hawdd yn gwneud y ddau beth yn hollol ar wahân.”
Mae’n bosib darllen Rhan 1 y blog fideo hwn yn fan hyn.