Heiddwen Tomos
Awdures o Sir Gâr sydd wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Môn.
Enillodd Heiddwen Tomos y wobr am ei drama ‘Milwr yn y Meddwl’, sy’n ymdrin â salwch PTSD, dan y ffugenw Twm Shwgryn.
Daeth yn agos i gipio’r Fedal yn y gorffennol gan ddod yn ail yn 2014 ac yn drydydd y llynedd ac yn 2013.
Mae hi newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf, Dŵr yn yr Afon a bu’n siarad â golwg360 yn dweud bod cael cymaint o nofelau Cymraeg am gefn gwlad yn “beth iach.”
Daeth 17 o geisiadau i’r beirniaid – Siân Summers, Sara Lloyd a Tony Llewelyn Roberts – oedd yn awgrymu bod y nifer yn arwydd o gystadleuaeth iach.
Bratiaith
Wrth draddodi ei feirniadaeth, dywed Tony Roberts bod tipyn o fratiaith a Saesneg yn y darn buddugol ond nad “diogi ieithyddol” yw hynny ond adlewyrchiad o’r “ffordd y mae aml i gymuned a haenau o gymdeithas yn y Gymru gyfoes yn defnyddio’r iaith.”
Mae Heiddwen Tomos yn byw ym Mhengarreg, Sir Gaerfyrddin ac yn Bennaeth yr Adran Ddrama yn Ysgol Bro Teifi.