Y cerflunydd, Nick Elphick (Llun oddi ar ei wefan)
Mae gweithio ar gerflun o sylfaenydd Cwmni Theatr Cymru, yn bwysicach nag ail-greu’r Frenhines i artist o Landudno sydd wedi bod yn gweithio ddydd a nos ar y ddelw a fydd yn cael ei dadorchuddio yng nghanolfan Pontio, Bangor ymhen dau fis.
Mewn cyngerdd dan y teitl, Wilbert a Ni, a lwyfannwyd yng Nghaernarfon nos Sul, fe ddadlennodd y cerflunydd Nick Elphick y bydd ei gerflun o Wilbert Lloyd Roberts yn cael ei gastio mewn llechen ac efydd o Gymru, ac y bydd wyneb y cyfarwyddwr yn heneiddio ac yn ymddangos yn iau, yn dibynnu o dan ba fath o olau y byddwch yn edrych arno.
Roedd holl elw’r noson a oedd yn cynnwys perfformiadau gan Valmai Jones, Dyfan Roberts, Mirain Haf, corau Glanaethwy a Cefin Roberts, yn ogystal ag atgofion gan Maureen Rhys, Christine Pritchard, Olwen Rees a Gaynor Morgan Rees, yn mynd i dalu am y cerflun. Maen nhw eisoes wedi codi dros £6,000, ac yn anelu am ychydig dros £8,000.
‘Ysbrydolwr’
“Mae hwn wedi bod yn gomisiwn anodd, mewn ffordd,” meddai Nick Elphick wrth theatr lawn yn Galeri, Caernarfon. “Fel arfer, dw i’n gweithio o fy mesuriadau a fy ffotograffau fy hun, ond y tro hwn, rydw i wedi bod yn ceisio dod o hyd i’r dyn mawr yma o hen luniau ohono ar wahanol adegau yn ei fywyd, a heb fod wedi ei gyfarfod na’i nabod.
“Ond mae’r cerflun hwn, i mi, yn bwysicach na’r penddelw wnes i o’r Frenhines,” meddai Nick Elphick wedyn. “Roedd y dyn yma’n ysbrydolwr, roedd o’n arweinydd, ac mi greodd o rywbeth newydd sbon allan o ddim.
“Mae dod i’w nabod o drwy’r broses yma, wedi bod yn brofiad bythgofiadwy.”
Mae Nick Elphick yn gobeithio cael y cerflun yn barod o fewn y pythefnos nesa’, cyn bydd y broses o gastio yn dechrau. Dyddiad dadorchuddio’r cerflun ydi Rhagfyr 18.