Fe fu cast Theatr Ieuenctid Cymru yn rhan o berfformiad arbennig yn y West End neithiwr i nodi pen-blwydd y sioe gerdd Les Misérables yn 30 oed.

Fe gawson nhw rannu llwyfan gyda chantorion enwog y sioe, fel John Owen Jones, ar ôl cael y gwahoddiad gan y trefnydd Cameron Mackintosh.

“Mae’n brofiad fydd yn aros yn y cof am byth,” meddai un o’r cast Cymraeg, Matthew Tucker.

Mae’r cast o 130 yn ymarfer ar hyn o bryd ar gyfer eu cynhyrchiad Cymraeg a fydd i’w weld yng Nghanolfan y Mileniwm rhwng 29 a 31 Hydref.

‘Annisgwyl’

Doedden nhw ddim yn disgwyl y gwahoddiad annisgwyl gan Cameron Mackintosh i ymuno â’r sioe wedi iddo eu gwylio nhw’n ymarfer yn ystod yr haf,  ac fe fu’n rhaid iddyn nhw gadw’u hymddangosiad yn gyfrinachol.

Fe ganodd y criw gyfuniad o ganeuon Cymraeg, gan gynnwys ‘Cân y Bobol’, ac mae’n debyg fod y gynulleidfa ar eu traed cyn y diwedd.

“Roedd yn brofiad hollol breathtaking,” yn ôl Ashley James Rogers, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd sy’n chwarae rhan ‘Enjolras’ yng nghynhyrchiad Theatr Ieuenctid Cymru.

Dathlu 10

Mae eu cynhyrchiad diweddara’ hefyd yn ddathliad – pen-blwydd Gwersyll yr Urdd Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru yn 10 oed. Ac mae’n ddeng mlynedd ers i’r sioe gael ei pherfformio o’r blaen gan y cwmni.

Cefin Roberts, Carys Edwards, Rhian Roberts a John Quirk yw’r cyfarwyddwyr, ac roedden nhw wrth eu bodd yn gweld y perfformwyr ifanc yn cael eu hysbrydoli gan yr actorion neithiwr.

Pan oedd Carys Edwards yn cyfarwyddo’r sioe yn 2005, roedd y canwr Rhidian Marc yn y sioe ac aeth ymlaen wedyn i gymryd rhan yn fersiwn y West End.

Mae ei lwyddiannau e yn “rhywbeth y gall y criw yma anelu ato fel rhywbeth sy’n wirioneddol bosib”, meddai Carys Edwards.

‘Byw’r freuddwyd’

Wrth siarad â golwg360, fe ddywedodd Ashley James Rogers, Celyn Llwyd Cartwright a Matthew Tucker eu bod nhw’n dal i fyw’r freuddwyd ers neithiwr.

Fe gawson nhw hefyd y cyfle i recordio yng nghwmni Claude-Michel Schönberg a Cameron Mackintosh, cynhyrchydd a chyfarwyddwr y sioe.

“I feddwl bo ni actually wedi bod ar y llwyfan mewn sioe gerdd mor eiconig – mae’n hollol anhygoel,” meddai Ashley James Rogers sy’n chwarae rhan Enjolras.

“Odd o’n wefreiddiol o deimlad i fod ar y llwyfan,” meddai Celyn Llwyd Cartwright sy’n ddisgybl chweched dosbarth yn ysgol Glan Clwyd ac yn gobeithio parhau ym myd perfformio yn y dyfodol.

Ac fe gafodd Matthew Tucker, o Brifysgol Abertawe, gyfle arbennig i sgwrsio â Luke McCall sy’n wreiddiol o’r Bala ac yn rhannu’r un cymeriad ag ef.

Mae’r criw bellach yn edrych ymlaen at eu perfformiadau yng Nghanolfan y Mileniwm ddiwedd y mis – “ac mae’n siŵr o fod yn fantastic wedi’r holl brofiadau ni wedi bod trwyddyn nhw fel cast cyfan,” ychwanegodd Matthew Tucker.

.