Eddie Ladd a Ffion Wyn Bowen yn ystod ymarferiad o Oes Rhaid i Mi Ddeffro?
Mae cynhyrchiad newydd Arad Goch yn addo deffro’r synhwyrau a “thorri tir newydd” ym maes theatr i blant yng Nghymru.
‘Oes Rhaid i Mi Ddeffro?’ yw cynhyrchiad cyntaf Arad Goch yn 2015 ac mae wedi selio ar ddau gymeriad a cherddor sy’n byw ym myd y breuddwydion ble mae unrhyw beth yn bosibl.
Mae’r ddrama, sy’n cysylltu coreograffi cyfoes Eddie Ladd a cherddoriaeth gwerin yr 18fed Ganrif, wedi ei sgwennu i gynulleidfa rhwng 3 a 7 oed.
Yr actorion Ffion Wyn Bowen a Mark Roberts fydd yn perfformio’r ddrama tra bod y gwaith coreograffi dan arweiniad Eddie Ladd a bydd y gerddoriaeth yn cael ei berfformio’n fyw ar y ffidil gan Mari Morgan, merch ifanc sydd newydd raddio gyda MA mewn Cerddoriaeth Draddodiadol Gymreig ym Mhrifysgol Bangor.
Meddai Jeremy Turner, cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Arad Goch a chyfarwyddwr y cynhyrchiad: “Mae’r elfen ryngweithiol wedi dangos i’r byd nad yw Cymru yn ofni mentro i ddatblygu syniadau newydd a chyfoes ym myd theatr i blant.
“Dyma’r tro cyntaf erioed i Arad Goch gydweithio gyda choreograffydd i ddyfeisio darn corfforol ac mae’r cyfuniad o ddawns gyfoes a cherddoriaeth draddodiadol yn torri tir newydd ym maes theatr i blant yng Nghymru.
“Mae rhywfaint o sgript ynddi, a rheiny’n eiriau sydd wedi dod o ganlyniad i sgwrsio gyda phlant, ond y corff a’r gerddoriaeth yw’r prif elfennau sy’n cyflwyno’r stori y tro hwn.”
Bydd ‘Oes Rhaid i Mi Ddeffro?’ yn teithio i ysgolion cynradd Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro o’r 26 Ionawr nes 27 Mawrth.