John Walter Jones
Mae Is-gadeirydd newydd Awdurdod S4C, Rheon Tomos, wedi wfftio awgrym bod yr Awdurdod wedi “bwlio” John Walter Jones o’i swydd.
Dywedodd Rheon Tomos wrth y Pwyllgor Dethol yn Nhŷ’r Cyffredin nad oedd yr Awdurdod wedi rhoi pwysau ar John Walter Jones i fynd.
Awgrymodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Alun Cairns, eu bod nhw wedi “bwlio” John Walters Jones i roi’r gorau i’w swydd.
Dywedodd y byddai rhai yn dweud bod yr Awdurdod hefyd wedi “bwlio” y Prif Weithredwr, Iona Jones, a’r pennaeth comisiynu, Rhian Gibson, a dyna pam eu bod nhw wedi gadael.
Gwadodd Rheon Tomos ei fod o wedi rhoi pwysau ar John Walter Jones i ymddiswyddo.
“Roeddwn i yn yr un lle a John yn ystod y cyfarfod yna. Fe ddywedodd o y byddai’n ymddeol yn syth, ac fe adawodd y cyfarfod bryd hynny,” meddai.
“Fe ddeffrais i’r bore wedyn yn disgwyl siarad gyda’r wasg am ei ymddiswyddiad. Ond yna clywais drwy’r wasg ei fod o wedi newid ei feddwl. Roedd o’n dipyn o sioc.
“Y peth allweddol i ni yw ein bod ni’n cymryd cam yn ôl ac yn parchu penderfyniad John. Fe wnaeth rhai aelodau o’r Awdurdod eu hunain ar gael i John. Ond doedd o ddim eisiau cynnal trafodaethau.”
Ond mynnodd Alun Cairns bod Rheon Tomos wedi mynd ar raglen CF99 a galw’n agored ar John Walter Jones i fynd.
“Roeddwn i’n credu bod gweithredoedd John Walter Jones wedi tanseilio hyder yn y sianel,” meddai Rheon Tomos.
Pryderon Staff
Gwadodd Rheon Tomos ei fod o wedi colli hyder staff S4C a rhai o aelodau’r Awdurdod.
“Dydw i ddim yn credu ein bod ni wedi colli hyder o fewn yr Awdurdod,” meddai Rheon Tomos.
“Am ein bod ni yn gyflogwyr sydd ddim yn gallu datgelu gwybodaeth am ein gweithredoedd, roedd hynny wedi ymddangos fel gwendid ac wedi awgrymu fod yna rwygiadau o fewn yr Awdurdod.
“Mae hwn yn stori sydd wedi esblygu ac rydym ni wedi ein dal yn ei ganol o. Ond mae S4C yn stori newyddion da, nid un drwg ac rydym ni’n hyderus iawn at y dyfodol.
“Mae’r staff yn credu ein bod ni’n agored i drafodaethau.”