BBC
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwario £4 miliwn yn llai ar raglenni S4C dros y tair blynedd nesaf.
Ar hyn o bryd mae’r BBC yn gwario £23.5m ar raglenni Cymraeg, ond dywedodd y cyfarwyddwr Menna Richards bod yn rhaid iddyn nhw dorri £15m o’u cyllideb erbyn 2013.
“Fe fydd buddsoddiad y BBC yn rhaglenni S4C yn syrthio o £23.5m eleni i tua £19.5m yn 2012/13,” meddai cyfarwyddwr BBC Cymru, Menna Richards.
Mae’r BBC yn cynhyrchu tua pumed rhan o holl raglenni S4C gan gynnwys rhai o’u rhaglenni mwyaf poblogaidd, sef opera sebon Pobol y Cwm, y rhaglen Newyddion, a’r Clwb Rygbi.
Dywedodd Menna Richards ei bod hi wedi rhoi gwybod i S4C ynglŷn â’r newidiadau ym mis Gorffennaf a bod Ymddiriedolaeth y BBC wedi rhoi sêl bendith ar y newidiadau.
‘Amser anodd’ – Ymateb S4C
“Mae ymrwymiad BBC Cymru i raglenni teledu Cymraeg a’u cyfraniad i S4C yn rhan bwysig iawn o amserlen y Sianel,” meddai llefarydd ar ran S4C.
“Rydym yn amlwg yn siomedig o’r cwtogi arfaethedig yn y buddsoddiad gan y BBC mewn rhaglenni Cymraeg, sy’n digwydd ar amser arbennig o anodd i S4C.
“Bydd y torri yma yn y gwariant a gyhoeddwyd gan BBC Cymru, a’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar y cynnwys i S4C, yn bwnc trafod cyson rhwng y ddau ddarlledwr o fewn fframwaith eu Cytundeb Partneriaeth Strategol.”
Gwneud mwy gyda llai?
Mae gan y BBC Cymru ddyletswydd statudol i gynhyrchu o leiaf 520 awr o raglenni ar gyfer S4C bob blwyddyn a’r awgrym yw y byddan nhw’n gwario llai ar eu rhaglenni presennol yn hytrach na thorri’n ôl ar oriau.
Dywedodd y BBC eu bod nhw wedi cynhyrchu 690 awr o raglenni ar gyfer S4C yn 2009/2010.
“Rydym ni’ncydnabod y bydd y gostyngiad yn creu her i S4C a hefyd i’n tîmau cynhyrchu ein hunain,” meddai Menna Richards .
“Mae’n amlwg ein bod ni’n wynebu dewisiadau anodd iawn, ond dw i’n credu nad yw’n gynaliadwy bod ein nawdd ar gyfer ein cynnyrch Cymraeg yn cael ei ddiogelu tra bod rhaglenni eraill BBC Cymru yn gorfod wynebu’r her.”
Roedd rhaid i’r BBC fod yn “realistig ynglŷn â’r cyfyngiadau ariannol yn y dyfodol,” meddai.
“Rydym ni’n gwybod bod cynulleidfa S4C yn gwerthfawrogi ein rhaglenni,” meddai. “Rydym ni’n cyhoeddi tua pumed rhan o allbwm S4C ond yn denu tua 40% o wylwyr y sianel.”
Ymateb Cymdeithas yr Iaith
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith bod y toriadau’n codi cwestiynau ynglŷn ag annibyniaeth wleidyddol BBC Cymru.
“Mae’r BBC yn gwneud gwaith Llywodraeth Brydain fan hyn trwy dorri lawr ar eu darpariaeth ar unig sianel deledu Cymraeg y byd,” meddai Menna Machreth.
“Yn anffodus, er bod y BBC yn ceisio dangos eu bod yn addasu i ddatganoli, y realiti yw fod arian tuag at raglenni Cymreig ar gyfer cynulleidfa Gymreig yn cael ei dorri – a nawr rhaglenni iaith Gymraeg hefyd.
“Mae’r toriadau hyn yn mynd i niweidio’r Gymraeg yn ogystal â’r toriadau eithafol mae’r Llywodraeth San Steffan yn eu cynllunio.
“Yr unig bobl a fydd yn croesawu’r cyhoeddiad hwn yw Jeremy Hunt [Gweinidog Ddiwylliant y DU] a’r rhai yn Llundain sydd am wneud toriadau am resymau ideolegol.”