Mae cyn bennaeth S4C wedi galw ar y sianel i egluro pam fod y Prif Weithredwr, Iona Jones, wedi gadael yn sydyn echnos.
Mae Huw Jones hefyd wedi rhybuddio am beryglon y drefn newydd a gafodd ei chyhoeddi ddoe, gydag Awdurdod y sianel a’r prif swyddogion yn cydweithio’n llawer agosach.
Hyd yn hyn, mae Cadeirydd yr Awdurdod, John Walter Jones, wedi gwrthod trafod y rhesymau am ymadawiad Iona Jones ond mae Golwg360 yn deall bod hynny wedi dod ar ôl cyfarfod stormus nos Iau.
Mae yna sôn hefyd am densiynau tros gyfnod rhwng yr Awdurdod a’r Prif Weithredwr a oedd wedi bod yn ei swydd ers 2005.
‘Angen trafod’
Fe ddywedodd Huw Jones wrth Radio Wales bod rhaid i’r sianel ddatgelu pam fod y prif swyddog wedi mynd – os oedd hynny oherwydd trefn reoli S4C, roedd angen trafodaeth gyhoeddus, meddai.
Mae hefyd wedi codi amheuon am y cydweithio agosach rhwng yr Awdurdod a’r swyddogion – mae hynny’n cael gwared ar y drefn hyd braich sydd wedi bod, gyda’r Awdurdod yn gyfrifol am gadw llygad ar waith y sianel.
Mae angen “gwahanu addas”, meddai Huw Jones, a fu’n bennaeth ar S4C am 12 mlynedd. Fel arall fe fydd y Cadeirydd i bob pwrpas yn Brif Weithredwr.