Dunbar (Huw Garmon) yn ordro stoc o'r ffatri nicyrs
Roedd criw Coronation Street   “yn debyg i’r Cymry” meddai Huw Garmon, yr actor llawrydd sydd newydd fod ar y ddrama gyfres gyson mwya’ hirhoedlog y byd wythnos diwethaf.

Mae wyneb sy’n gyfarwydd iawn i gynulleidfa S4C yn ymddangos ar strydoedd Coronation Street o fewn wythnosau i’w gilydd.

Mae Huw Garmon, sy’n enwog am ei ran fel Hedd Wyn yn y ffilm o’r un enw, eisoes wedi ymddangos ar opera sebon hyna’r byd yr wythnos diwethaf, yn actio’r cymeriad Dunbar. A’r wythnos ddiwethaf hefyd, fe fu un o wynebau amlwg Tipyn o Stad, Pen Tenyn a Pengelli, Wyn Bowen Harries, yn ffilmio pennod ar gyfer Coronation Street, sydd wedi bod wrthi ers 1960.

Mae Huw Garmon wedi ffilmio dwy bennod sy’n ei ddangos yn prynu gan ffatrïoedd y stryd. Mae’n disgwyl i glywed os fydd y cymeriad yn dod yn ôl yn y dyfodol.

‘Rhywle arbennig’

“Mae’n gyfres eiconig nawr. Roedd o’n brofiad cynhyrfus. Ro’ ni’n teimlo mod i’n rhywle arbennig,” meddai Huw Garmon wrth Golwg360.

“Wrth fynd i mewn, roedd ’na bobl yn aros o gwmpas giatiau’r stiwdio, yn sefyllian ac yn dod a blodau i’r bwcedi dŵr wrth y porth i weld os fyddan nhw’n gweld unrhyw un. Mae’n amlwg bod y rhaglen yn cyffwrdd bywydau. Roedd o fel rhyw allor a dweud y gwir. Difyr gweld hynny, yn amlwg mae’n rhywbeth mawr a go bwysig i lot fawr iawn o bobl,” meddai’r actor.

“Roedd y gwaith yn ddymunol iawn. Roedd yn rhwydd iawn gweithio gyda nhw. Doedd dim egos mawr a dim syniadau mawr amdanyn nhw’i hunain. Roedden nhw’n agos iawn atat, yn debyg iawn i’r Cymry mewn ffordd. Ro’ ni’n gweld nhw fwy Cymreig na mynd i Lundain a gweithio yn fanno. Ges i groeso cynnes yno.”

Wrth sôn am ei gymeriad, Dunbar, dywedodd Huw Garmon: “Roedd o’n greadur oedd yn dod i mewn ac yn ffeindio’i hun yn y sefyllfa ganol, rhwng y ffatrïoedd,” meddai cyn dweud fod ganddo acen ymylol, Wrecsam oedd wedi mabwysiadu banter Manceinion.

‘Brathu’

Fe ddywedodd yr actor ei fod yn teimlo bod llai o waith yn y diwydiant actio yng Nghymru y dyddiau hyn.

“Dw i’n lwcus, dw i wedi bod yn newid cyfeiriad ers rhai  blynyddoedd nawr – dw i’n sgwennu mwy na ’dw i’n actio rŵan. ‘Dw i wedi gorfod gwneud hynny i raddau mae’n siŵr – ella tasa na ddigon o  waith ella faswn i’n parhau i actio. Ond, yn sicr, wrth siarad gyda chyd actorion  – maen nhw’n teimlo bod hi’n brathu ac wedi bod yn brathu ers tipyn yng Nghymru. Mae’n anodd iawn gwybod beth yw’r ffordd ymlaen,” ychwanega.

Mae Huw Garmon yn ysgrifennu i’r opera sebon Pobol y Cwm, wedi cyfarwyddo eleni ac wedi bod yn darlithio’r  llynedd.