Mae S4C wedi canslo noson gwylwyr oedd i’w chynnal yn Aberystwyth nos Fercher nesaf (Mawrth 18) oherwydd pryderon am coronavirus.

Yn lle’r noson, bydd y prif weithredwr Owen Evans a’r cyfarwyddwr cynnwys Amanda Rees yn cymryd rhan mewn digwyddiad byw ar Facebook Live am 6 o’r gloch y noson honno.

Mae’r sianel yn croesawu cwestiynau ymlaen llaw drwy e-bostio gwifren@s4c.cymru, ffonio 0370 600 4141 neu neges Facebook.

“Ar ôl asesiad risg gan S4C, penderfynwyd, yn anffodus, canslo Noson Gwylwyr yn Aberystwyth. Iechyd a lles y cyhoedd yw ein blaenoriaeth ni,” meddai Owen Evans.

“Ond rydym dal yn awyddus iawn i glywed gan bobol.

“Mae S4C yn wasanaeth darlledu cyhoeddus felly mae’n hanfodol ein bod ni’n gwrando ar lais y gwylwyr.

“Mae croeso i bawb gysylltu â ni dros Facebook Live i holi cwestiynau ac i rannu beth fydden nhw’n dymuno gweld ar y sianel yn y dyfodol.”