Mae awdur Bang yn addo “dwy iaith, perfformiadau cofiadwy a thirwedd ddiwydiannol syfrdanol tref ddur Port Talbot” ar ddechrau ail gyfres y rhaglen deledu boblogaidd ar S4C.
Roger Williams yw awdur y gyfres boblogaidd fydd yn dychwelyd i’r sgrîn nos Sul (Chwefror 23), wrth i’r stori barhau union ddwy flynedd ers diwedd y gyfres gyntaf.
Enillodd y gyfres gyntaf y Ddrama Deledu Orau yng ngwobrau BAFTA Cymru yn 2018, ac enillodd Dafydd Hunt wobr y Golygydd Gorau.
Mae’n adrodd hanes DS Gina Jenkins (Catrin Stewart) a Luke Lloyd (Jack Parry-Jones) wrth iddyn nhw geisio darganfod union amgylchiadau sawl llofruddiaeth sy’n cael eu cysylltu ag achos hanesyddol o dreisio yn y dref.
Llofruddiaeth dyn 30 oed ar lan y môr oedd man cychwyn y digwyddiadau ond mae’n ymddangos bod nifer o bobol wedyn yn cael eu targedu ar ôl iddyn nhw gael eu henwi gan y ddynes leol Marissa Clarke yn yr achos treisio ddegawd cyn hynny.
‘Stori am ddial a’r awydd i ddatgelu’r gwir’
“Wrth wraidd yr ail gyfres hon mae stori am ddial a’r awydd i ddatgelu’r gwir am drosedd hanesyddol,” meddai’r awdur Roger Williams.
“Mae Bang yn cyflwyno’r stori mewn arddull unigryw trwy harneisio dwy iaith, perfformiadau cofiadwy a thirwedd ddiwydiannol syfrdanol tref ddur Port Talbot.”
Yn ôl yr actor Jack Parry-Jones o Ferthyr Tudful, mae natur ddwyieithog y gyfres yn ehangu ei hapêl, yng Nghymru a thu hwnt.
“Ail iaith ydi Cymraeg i mi, ond mae actio mewn drama Gymraeg wedi bod yn rhywbeth dwi wedi bod eisiau ei wneud ar hyd fy ngyrfa.
“Dwi mor browd o’r ffaith mai Bang oedd y ddrama gyntaf gan S4C gafodd ei darlledu ar y BBC yn ei ffurf wreiddiol, ddwyieithog. Mae hynna’n gam mawr i ni.
“Dwi’n credu bod gan bobl lai o ofn yr iaith erbyn hyn o’i gymharu â phan oeddwn i’n iau.
“Mae hi’n gyfnod cyffrous iawn i fod yn Gymro ac i siarad Cymraeg.
“Gobeithio bod cynhyrchiad dwyieithog fel Bang yn arwain y ffordd yn y modd y gall dramâu gael eu cynhyrchu yn y dyfodol.”
Dyma’r prif actorion yn siarad â golwg360 yn 2018 am eu llwyddiant yng ngwobrau BAFTA Cymru: