Mae’n “golled” i’r diwydiant ffilmiau bod Julian Lewis Jones yn rhoi’r gorau i actio, yn ôl adolygwr ffilmiau.
Mae’r actor sy’n enedigol o Ynys Môn, yn bennaf adnabyddus am ei waith yn ffilmiau Invictus a Justice League, a’r wythnos diwethaf fe gyhoeddodd ar ei dudalen Facebook y byddai’n rhoi’r gorau iddi.
Yn ôl Gary Slaymaker, fe lwyddodd yr actor lenwi sawl rôl wahanol o gomedi ysgafn – Stella – hyd at ddramâu tywyll – Spooks – ac mae hynny yn haeddu canmoliaeth, meddai.
“Mae actorion da yn gallu troi eu dwylo at unrhyw beth,” meddai wrth golwg360. “A does dim amheuaeth bod Julian yn gallu gwneud ‘na.
“Os wyt ti’n actor rwyt ti’n gorfod chwilio am waith le bynnag. Ac os wyt ti’n dalent rwyt ti’n gallu troi dy law at bron unrhyw beth. Mae wedi cael gyrfa ddifyr iawn.”
Y diwydiant
Mewn neges ar Facebook yn datgan ei benderfyniad i roi’r gorau i actio, mae Julian Lewis Jones yn dweud: “Dydi profiad ag ymdrech ddim yn cyfri am unrhyw beth yn y diwydiant actio bellach.”
Mae Gary Slaymaker yn cytuno i ryw raddau, gan ddweud bod y diwydiant, erbyn hyn, yn ffafrio actorion rhad ac ifanc, tros actorion â phrofiad.
“Mae’n dweud lot am ein diwydiant ar hyn o bryd bod rhywun gyda’r fath o dalent sydd gyda Julian yn ffindo hi’n anodd ffindo gwaith,” meddai wedyn.
“Dw i’n credu bod y diwydiant yn gyffredinol yn anoddach dyddie hyn. Mae cwmnïau yn disgwyl oriau hirach am lai o dâl, gan y bobol sy’n gweithio iddyn nhw.”
Gwreiddiau
Dim ond llond llaw o Gymry Cymraeg sydd wedi llwyddo gadael eu hôl ar Hollywood yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae nifer o rheiny yn byw yn Los Angeles.
Ond Nantgaredig, yn Sir Gaerfyrddin, yw cartref Julian Lewis Jones, ac mae Gary Slaymaker yn ei ganmol am fedru cyrraedd y sgrin fawr heb gefnu ar Gymru.
“Dw i’n eithaf prowd o’r ffaith bod Julian wedi bod yn driw iawn i’w wreiddiau,” meddai. “Roedd Julian yn gwneud dramâu a chyfresu yn Gymraeg ar S4C, wrth weithio ar stwff Hollywood ar yr un pryd.”