Mae Black Panther wedi gosod record arall – fel y ffilm i gael ei chrybwyll y nifer mwyaf o weithiau mewn negeseuon ar Twitter.

Mae mwy na 35 miliwn o ddefnyddwyr wedi trydar am y ffilm, meddai Twitter.

Mae hynny’n ei gosod o flaen deilydd blaenorol y record, sef Star Wars: The Force Awakens. Y ffilm Star Wars diweddaraf, The Last Jedi, sydd yn y trydydd safle.

Dros y penwythnos, fe gyrhaeddodd Black Panther i frig siartiau’r swyddfa docynnau yng Ngogledd America am bum penwythnos yn olynol – y ffilm gyntaf i gyflawni hynny ers Avatar yn 2009.

Yn ol Twitter, mae’r trydar mwyaf am Black Panther yn digwydd yn yr Unol Daleithiau, yng ngwledydd Prydain, ac yng Ngwlad Thai.