Er bod awdur cofiant Cymrarg newydd sbon i’r ffotograffydd, Philip Jones Griffiths, yn gwybod y bydd rhai pobol yn teimlo’n chwith o fethu allu ei ddarllen yn Saesneg, mae merched y tynnwr lluniau yn dweud y byddai eu tad yn “falch”.
Mewn neges a gafodd ei darllen yng nghyfarfod lansio cofiant Ioan Roberts yn Llyfrgell Rhuddlan, ddegawd union ers ei farw (Mawrth 19, 2008) mae Katherine Holden a Fanny Ferrato, yn dweud bod yr iaith Gymraeg yn allweddol ym mywyd eu tad.
“Nid geiriau’n unig ydi’r iaith Gymraeg,” medden nhw, “ond rhan o gyfansoddiad ac o’r ffordd yr oedd o (Philip Jones Griffiths) yn ei fynegi ei hun.
“Mi fasa Philip mor falch.”
Fe anwyd Philip Jones Griffiths yn Monfa, Lôn Hylas, Rhuddlan, yn 1936, yn fab i Joseph a Catherine Griffiths. Roedd ei dad yn gweithio ar y rheilffordd, a’i fam yn nyrs ardal.
Mae gwasg Y Lolfa, cyhoeddwyr y gyfrol, yn dweud eu bod yn “gobeithio” cyhoeddi fersiwn Saesneg o’r cofiant, Philip Jones Griffiths: Ei Fywyd a’i Luniau.