Er bod y ffotograffydd rhyfel, Philip Jones Griffiths, wedi honni “nad oedd yn credu”, mae cyfaill plentyndod yn mynnu fod ei fagwraeth yn y capel wedi aros gydag ef ar hyd ei fywyd.
Wrth annerch y cyfarfod i lansio cofiant y tynnwr lluniau yn ei dref enedigol, mae’r Athro Elfed ap Nefydd Roberts yn dweud i’w ffyddlondeb i oedfaon capel Tabernacl y dref, roi ymdeimlad o fod eisiau gwneud newid er gwell yn y byd.
“Pan oedd o’n ddyn ifanc, roedd o’n arfer dweud nad oedd o’n credu… ond roedd o’n dal i fynd i’r Tabernacl,” meddai’r Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts, a fagwyd dros y ffordd iddo yn Lôn Hylas yn nhref Rhuddlan.
“Ond rebelio ffasiynol oedd hynny,” meddai wedyn, gan ddadlau bod yr ymdeimlad o gyfiawnder yn rhan fawr o luniau Philip Jones Griffiths, a dylanwad ei ewythr, y Parchedig W Llewelyn Jones (tad ffotograffydd y wasg, Gerallt Llewelyn) yn allweddol yn y ffordd yr oedd yn edrych ar y byd.
“Roedd Philip yn ei alw’i hun yn heddychwr pan oedd o yn yr ysgol,” meddai Elfed ap Nefydd Roberts eto, cyn dweud fod y tynnwr lluniau, ymhlith ei baourach, wedi cadw nodyn gan un o flaenoriaid y capel ato’n ddyn ifanc, yn ei annog i drïo newid y byd er gwell.