Mae awdur cofiant i ffotograffydd Fiet-nam yn dweud na phrofodd Philip Jones Griffiths yr un hunllef – er iddo weld erchyllterau a siglodd y byd.
Yn ôl Ioan Roberts, roedd y tynnwr lluniau a ddaeth â dioddefaint pobol gyffredin y wlad dan law yr Unol Daleithiau, i sylw’r byd, yn meddwl gormod am deimladau pobol eraill nag amdano ef ei hun, pan oedd y camera am ei wddw.
“Roedd o’n dweud bod yn rhaid iddo fo fod yn wrthrychol ac yn newyddiadurol tra’n tynnu llun,” meddai Ioan Roberts wrth gynulleidfa niferus yn Llyfrgell Rhuddlan, ddeng mlynedd i’r diwrnod ers marw Philip Jones Griffiths ar Fawrth 19, 2008.
“Rhywbeth ar gyfer yr ystafell dywyll – tra’r oedd yn datblygu’r lluniau – oedd gollwng dagrau. Yn y fan honno roedd y teimladau’n dod i’r wyneb.
“Ond chafodd o erioed yr un hunllef, nac ail-fyw yr hyn welodd o… a dyna oedd yn fy mhoeni i cyn ei holi am y tro cynta’ 22 mlynedd yn ôl…
“Mae rhywun yn clywed ac yn gwybod am gymaint o bobol sydd wedi bod i ryfeloedd ac wedi troi at y botel neu at gyffuriau, neu hyd yn oed wedi cymryd eu bywydau wrth fethu byw efo’r hyn welson nhw.
“Ond roedd Philip Jones Griffiths yn gweld ei hun yn gwneud ei ran… roedd o’n profi yr hyn oedd milwyr America yn ei ddweud yn eu llythyrau adref; ac roedd o’n dangos fod y ffordd yr oedd America yn portreadu pobol Fiet-nam, yn gelwydd.”