Bu farw Jim Bowen, y digrifwr a ddaeth yn gyflwynydd sioe gwis fwya’ poblogaidd yr 1980au.
Roedd y cyn-athro yn 80 oed, ac wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf allan o olwg y byd, ar ôl diodde’ tair strôc fawr.
Fe fentrodd am y tro cyntaf o fyd addysg i fyd teledu ar gyfres The Comedians ddiwedd y 1970au, cyn cael cynnig cyflwyno’r sioe gwis Bullseye, a oedd yn cyfuno gwybodaeth gyffredinol a thaflu dartiau i gwmni Central Television.
Fe ddaeth y sioe yn boblogaidd iawn yn y slot amser te bob dydd Sul, ac er nad Jim Bowen oedd y dewis cyntaf gan y cynhyrchwyr, ar ei hanterth, roedd y sioe yn denu 14 miliwn o wylwyr.
Daeth dywediadau bachog Jim Bowen, yntau, yn rhan o fformiwla’r llwyddiant – yn arbennig ei arfer o ddisgrifio pethau gan ddefnyddio “Super, smashing, great”.