Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor “yn dal mewn bach o sioc” wedi iddo ennill y Gadair a’r Goron yn yr Eisteddfod Rhyng-gol dros y penwythnos.
“Dw i’n knakered, mae’n amlwg, ond dw i’n dal mewn bach o sioc,” meddai Osian Owen, sy’n wreiddiol o’r Felinheli, wrth golwg360.
“Ond mae’r gefnogaeth dw i wedi’i chael yn wych, mae pawb wedi bod yn gyfeillgar iawn.”
Fe gynhaliwyd yr eisteddfod ar gampws Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan eleni.
Y Gadair a’r Goron
Roedd y Gadair yn cael ei rhoi am gerdd heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Gweld’, a’r Goron am ddarn o ryddiaith ar y testun ‘Disgwyl’.
Roedd y gerdd fuddugol, a oedd yn gerdd rydd gydag ambell drawiad cynganeddol, yn trafod datblygiad carwriaeth dau, tra bo’r darn ar gyfer y Goron wedi’i ysgogi gan y gyfrol Prydeindod gan yr athronydd JR Jones, ac yn trafod hunaniaeth y Cymry.
Yn ôl Osian Owen, er bod cyfansoddi’r gerdd wedi bod yn “eithaf rhwydd”, fe gafodd dipyn mwy o drafferth i ysgrifennu’r darn rhyddiaith.
“Mi ro’n i wedi sgwennu’r Gadair dros gyfnod o ychydig wythnosau, felly mi ro’n i wedi gweld hwnna’n eithaf rhwydd,” meddai.
“Ond o ran y Goron… bu raid i fy ffrindiau fy nghloi yn fy stafell a’m gorfodi i sgwennu yn y dyddia ola’ yn arwain at y dyddiad cau. Mi aeth pethau ychydig yn ben-set ar gyfer y Goron.”
“Rhoi hyder”
Mae Osian Owen wedi bod yn llenydda ers rhai blynyddoedd, gan ennill ambell gystadlaeth mewn eisteddfodau lleol, ynghyd â mynd i ddosbarthiadau cynganeddu Rhys Iorwerth yn Galeri, Caernarfon.
Mae’n dweud bod y llwyddiant diweddaraf hwn wedi “rhoi hyder” iddo i ddal ati, yn enwedig ar ôl derbyn clod gan feirniad y ddwy gystadleuaeth, Tudur Dylan Jones.
“Mae’n rhoi hyder pan ydych chi’n cael beirniad fel yna yn rhoi’r Gadair a’r Goron i chi; mae’n rhoi hyder i fi fynd ymlaen i drio pethau eraill.”