Mae cyfres newydd ar S4C yn rhoi sylw i un o bynciau mawr y dydd – gordewdra.
Dros wyth wythnos ym mis Ebrill eleni, fe fydd Ffit Cymru yn dilyn hynt a helynt pump o bobol sydd am golli pwysau, yn ogystal ag edrych ar ffyrdd o gadw’n iach trwy addasu’r hyn y maen nhw’n ei fwyta.
“Be sy’n fwy pwysig ydi’r newidiadau fedran ni wneud pob diwrnod i’n helpu i fod yn fwy iach a cholli pwysau,” meddai’r deietegydd Sioned Quirke, sy’n ymddangos ar y rhaglen.
“Does dim problem o gwbwl cael bwydydd ydan ni’n mwynhau neu gael trît ar ein pen-blwydd neu ar Ddydd Nadolig neu ar ein gwyliau… ond y drafferth ydi bod pobol yn mynd dros ben llestri.”
Yn ôl ymchwil gan Forza Supplements, mae’r bwyd rydym yn ei fwyta ar Ddydd Nadolig yn unig yn cyfateb i 5,240 o galorïau – dros ddwywaith y cyfanswm dyddiol sy’n cael ei argymell.
Ac yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae 60% o’r Cymry dros eu pwysau, ac un ymhob pedwar yn ordew. At hynny, mae 20% o’r Cymry’n ysmygu ac yn yfed mwy na’r canllawiau wythnosol.
Y ffigyrau
Dim ond chwarter o’r Cymry sy’n bwyta pum ffrwyth neu lysieuyn bob dydd, a dim ond hanner y Cymry sydd yn weithgar am 150 o funudau neu ragor yn ystod yr wythnos.
“Mae o wedi bod yn broblem ers blynyddoedd. Mae’r ystadegau yng Nghymru’n dangos bod y rhan fwya o oedolion na phlant yng Nghymru ddim yn agos at fwyta pump portion o lysiau neu ffrwythau y dydd. Be mae hynna’n dangos ydi bod pobol yn ymwybodol o be ddylien nhw ei wneud, ond gwneud o ydi’r drafferth.
“Dyna lle mae’r cyngor dan ni wedi bod yn ei roi yn y gorffennol wedi disgyn i lawr ychydig. Dan ni ddim yn rhoi digon o gymorth i bobol mewn ffordd ymarferol ar sut i roi’r cyngor i’w le ym mywydau pobol. Mae hynna’n beth weddol anodd i’w wneud oherwydd bod pobol mor wahanol.”
Yn ôl ymchwil gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn gwario £73m bob blwyddyn yn trin ac yn ceisio atal gordewdra.
Y gyfres
Mae’r gyfres newydd yn cynnig y cyfle i bump o bobol newid eu harferion bwyta a chadw’n heini.
Mewn wyth rhaglen fydd yn cael eu darlledu ym mis Ebrill, bydd y pump gwestai sy’n cael eu dewis yn cael cymorth gan yr hyfforddwr ffitrwydd personol o Benarth Rae Carpenter, y dietegydd Sioned Quirke o Bont-y-clun a’r seicolegydd Dr Ioan Rees o Ben Llŷn i gyrraedd eu nodau unigol.
“Dwi’n meddwl bod gordewdra a bwyta’n iach yn broblem gymhleth iawn. ’Dan ni’n gwybod fod y berthynas sy’ gan bobol efo bwyd, pan maen nhw’n ordew, ddim yn un sy’n mynd i’w helpu nhw i golli pwysau a hefyd, mae pobol yn defnyddio bwyd fel comfort ac mae pobol yn defnyddio bwyd mewn ffordd sy’ ddim yn iach i’w pwysau nhw.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i ymddangos yn y gyfres yw Chwefror 2, ac mae modd gwneud cais ar wefan www.s4c.cymru/ffitcymru. Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan.