Mae ail donfedd Gymraeg ar y radio “yma i aros”, meddai Golygydd Radio Cymru, cyn i Radio Cymru 2 ddechrau darlledu ymhen ychydig dros dair wythnos.
Ar Ionawr 29, fe fydd lleisiau Caryl Parry Jones a Dafydd Du i’w clywed rhwng 6.30 a 8.30 ar foreau Llun i Iau, yn cynnig dwyawr o arlwy gwahanol, ysgafnach na’r brif orsaf.
Mae Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru, yn pwysleisio nad prawf na pheilot yw Radio Cymru 2, ac mai “dyma’r dechrau” ar orsaf newydd “sydd yma i aros ac i wneud cymaint o lwyddiant ag y gall”.
Arian ychwanegol… ond faint?
Mae Radio Cymru 2 wedi derbyn arian ychwanegol gan y BBC yn ganolog i’w datblygu ac i’w chynnal am y flwyddyn gyntaf.
Dydi Betsan Powys ddim yn fodlon dweud faint o arian y mae hi wedi’i dderbyn i sefydlu ac i redeg yr orsaf newydd – ond mae’n gweld y weithred honno yn un arwyddocaol o ran y Gorfforaeth yn Llundain.
“Dyna oedd y foment bwysig inni,” meddai Betsan Powys wrth golwg360. “Mae’n rhan o’r Siarter a’r gefnogaeth i ddatblygu Radio Cymru 2.
“Heb hwnnw, bydden ni ddim lle ydyn ni nawr.”
Cyflwynwyr, ymchwilwyr, cynhyrchwyr…
Eisoes mae enwau cyflwynwyr yr orsaf wedi’u cyhoeddi, ac o fewn yr wythnosau nesaf bydd swyddi’n cael eu hysbysebu er mwyn ceisio denu ymchwilwyr i ymuno â’r orsaf newydd.
Ond fe fydd y donfedd newydd yn rhannu rhai pobol gyda’r hen Radio Cymru, gyda “help cynhyrchu yn dod gan griw Radio Cymru, a rhywfaint o ddyblu sy’n gwneud sens” yn ôl Betsan Powys.
Un o gyflwynwyr yr orsaf yw Dafydd Du, sydd ar hyn o bryd yn Uwch Gynhyrchwyr Radio Cymru (un o dri sydd un rhicyn i lawr o’r brif swydd olygyddol). Ar ôl Ionawr 29, fe fydd yn cadw ei swydd reoli gyda Radio Cymru tra’n cyflwyno bedwar bore’r wythnos ar Radio Cymru 2.
Ar hyn o bryd Lisa Angharad o’r grŵp Sorela sy’n cyflwyno ar foreau Sadwrn, ond mae’r slot hwn yn gyfle i “drio pobol o’r newydd” a “datblygu talent newydd sbon,” meddai Betsan Powys.
Cynulleidfa darged
Bwriad Radio Cymru 2 yw “denu gwrandawyr i wrando ar gerddoriaeth a sgyrsiau hwyliog drwy gyfrwng y Gymraeg”.
“Dyw hi’n ddim cyfrinach fod pobol wedi bod ar hyd y blynyddoedd diwethaf yn cael eu denu gan Radio 2 – dyna ble mae swmp cynulleidfa Cymru yn troi yn y bore,” meddai Betsan Powys wedyn.
“Beth ydyn ni eisiau gwneud, yw dweud wrth y bobol rheiny efallai nad ydych chi’n meddwl fod Radio Cymru i chi, ond fe allai Radio Cymru 2 wneud rhywbeth i chi.”
Fe fydd ymgyrch farchnata yn dechrau ar y cyfryngau cymdeithasol cyn bo hir.
Mae’n ychwanegu y bydd bwletinau newyddion ar Radio Cymru 2 ymysg y cerddoriaeth a’r sgyrsiau gan ychwanegu mai “awydd sydd yna i gynnig rhaglen hwyliog llawn cerddoriaeth i bobol sy’n dewis, ar hyn o bryd, gwrando ar y math yna o raglen yn Saesneg”.
Mae’n ychwanegu mai cyfartaledd oedran gwrandawyr Radio Cymru yw “tua 56-57 oed”, ond ei bod yn gobeithio denu cynulleidfa iau i wrando ar Radio Cymru 2.
Platfformau
Bydd modd gwrando ar yr orsaf newydd ar lwyfannau digidol gan gynnwys DAB, bbc.co.uk/radiocymru, BBC iPlayer, bbc.co.uk/radiocymru2, ac ar deledu.
Er bod y rhan fwyaf o wrandawyr Radio Cymru’n gwrando ar FM ar hyn o bryd, mae llwyfannau digidol ar gynnydd, yn ôl Betsan Powys. “Heb amheuaeth, gwrando trwy DAB a’r we yw’r dyfodol.”