Yr Athro David Crystal
Mae gwefannau cymdeithasol a chyfathrebu digidol yn bwysig iawn i barhad yr iaith Gymraeg, yn ôl yr academydd ieithyddol David Crystal.

Dywedodd fod gwefannau fel Facebook a Twitter yn rhoi mwy o gyfle i bobol ifanc ddefnyddio’r iaith ymysg eu cyfoedion.

Daw ei sylwadau ar raglen Ar Lafar, S4C, heno, fydd yn ystyried a yw ffyrdd digidol o gyfathrebu helpu  i gynnal y Gymraeg, a thafodiaithau Cymraeg.

Yn y rhaglen ddiweddaraf yn y gyfres, bydd y bardd Ifor ap Glyn yn cymryd rhan mewn arbrawf ym Mhrifysgol Bangor i ddarganfod a yw’n meddwl yn Gymraeg neu yn Saesneg.

“Flynyddoedd yn ôl, ni fyddai gan bobol ifanc unrhyw ddylanwad ar ffurf yr iaith Gymraeg, ond erbyn hyn mae pobol ifanc yn ysgrifennu yn yr iaith i’r un graddau ag y mae pobol hŷn,” meddai David Crystal, sy’n darlithio ym Mhrifysgol Bangor.

“Dydw i ddim yn dweud y gall pobol ifanc anwybyddu iaith y Beibl neu S4C – mae’n rhaid i bobol ifanc barchu Cymraeg  pobol hŷn.

“Ond ar y llaw arall, rhaid i bobol hŷn barchu iaith pobol ifanc, a dydi hynny ddim wedi bod yn digwydd. Nid o’r Saesneg y daw’r perygl mwyaf, ond o’r tu mewn.”

Mae’r DJ Dyl Mei yn ategu sylwadau David Crystal.

“Diolch i dechnoleg newydd fel tecstio, trydar a blogio, mae’r iaith Gymraeg yn cael ei weld ar ffurf ysgrifenedig gan lawer mwy o bobol nag yr oedd deg mlynedd yn ôl,” meddai.

“Diolch i’r we, mae yna blatfform i bobol ysgrifennu’n rhydd yn y Gymraeg heb orfod poeni’n ormodol a ydi’r gramadeg yn gywir.

“Gall y genhedlaeth hŷn gwyno gymaint ag y maen nhw’n dymuno, ond fyddan nhw ddim yn dylanwadu ar beth sy’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg ar y we.”

Bydd Ar Lafar yn cael ei ddarlledu ar S4C am 9pm heno.