Michael Sheen (Gage Skidmore CCA 3.0)
Mae’r seren Hollywood o Gymru, Michael Sheen, wedi ymddiswyddo o’i rôl yn is-lywydd Gŵyl Ffilm Bae Abertawe ar ôl i’r digwyddiad gael ei feirniadu gan wneuthurwyr ffilmiau.
Yn ôl darn ar wefan gymdeithasol YouTube gan Steve Rosen a Terry De Bono roedd eu ffilm wedi cael ei diystyru yn yr ŵyl y llynedd.
Maen nhw’n honni ei bod wedi cael ei dangos yr un pryd â’r cinio ffarwel ac mai ychydig iawn o sylw a gafodd hi, er eu bod nhw wedi tiethio 7,000 o filltiroedd o Galifornia i fod yno.
Mae Michael Sheen, sydd yn ôl yn ei dref enedigol ym Mhort Talbot yn paratoi ar gyfer ei ddrama The Passion, wedi cyhoeddi llythyr ymddiswyddo.
‘Angen datrys yn agored a theg’
Mae’n dweud ei fod yn teimlo bod rhaid atal ei gefnogaeth i’r ŵyl nes bod y mater “wedi cael ei ddatrys yn agored ac yn deg”.
Mae’r seren arall leol, Catherine Zeta Jones, yn parhau i fod yn noddwr yr ŵyl ac mae wedi dweud ei bod hi’n falch i fod yn rhan o’r digwyddiad sy’n cymryd lle ym mis Mai eleni.