Mi Cymro Cymraeg o’r Rhondda wedi cael ei ganmol am ei “lais Cymreig” gan feirniaid y rhaglen dalent, X Factor, dros y penwythnos.
Yn y rownd gyntaf o glyweliadau a ddarlledwyd ar ITV nos Sadwrn, mi ganodd Lloyd Macey, 23 oed, y gân Lay Me Down gan Sam Smith o flaen y panel o feirniaid – sy’n cynnwys Simon Cowell, Sharon Osbourne, Alesha Dixon a Louis Walsh.
Ar ôl iddo ganu, rhoddodd pob un o’r beirniaid ganmoliaeth uchel i gyn-fyfyriwr y cwrs BA Perfformio ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – gyda Simon Cowell yn dweud fod ganddo “lais arbennig o dda”.
“Mae gen ti lais arbennig – y llais Cymreig hwnnw y mae pobol yn ei garu”, meddai.
Brechdanau mam-gu
Ond nid ei lais yn unig a syfrdanodd y beirniaid, ond ei fam-gu hefyd a ddaeth ymlaen gyda’i hŵyr ar ddechrau’r clyweliad gan gynnig brechdanau i bob un ohonyn nhw.
Cafodd wedyn gyfle i eistedd ger Simon Cowell tra roedd y perfformiad yn mynd yn ei flaen.
Mi fydd Lloyd Macey yn mynd trwodd i’r rownd nesaf o glyweliadau a fydd yn cael eu darlledu yn ystod yr wythnosau nesaf.