Y diweddar Gethin Thomas
Bu farw’r digrifwr a’r cyhyrchydd teledu, Gethin Thomas, yn 49 oed.
Fe’i magwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac fe ddechreuodd gynnal ei sioeau stand-yp Cymraeg yng Nghaerdydd yn 1991.
Fe aeth yn ei flaen i sgriptio a chynnal nosweithiau comedi ar y cyd â Daniel Glyn, Gary Slaymaker a digrifwyr Cymraeg eraill.
Roedd hefyd yn rhan o’r tîm fu’n sgriptio rhaglenni fel Hotel Eddie ac Y Rhaglen Wirion ‘Na ar S4C. Roedd yn gyfarwyddwr ar gwmni teledu Zeitgeist Entertainment.
Teyrnged gan TAC
“Mae’n dristwch mawr gan TAC glywed am farwolaeth ddisymwth Gethin Wyn Thomas o gwmni cynhyrchu Zeitgeist,” meddai Iestyn Garlick, Cadeirydd corff Teledwyr Annibynnol Cymru.
“Bu Gethin yn aelod brwd o TAC ac yn aelod gweithgar o’r Cyngor ers 2009 mewn cyfnod pwysig a chyfnewidiol ym myd y cyfryngau yng Nghymru.
“Roedd ei gyfraniad at fyd comedi Cymru, a’i bortread ohono ar radio a theledu, yn un gwerthfawr y byddwn yn cofio amdano â hoffter a gwên. Roedd Gethin yn ddyn brwdfrydig a bywiog, ac mi fydd colled fawr ar ei ôl.”
S4C yn cofio cyfraniad
“Roedd cyfraniad Gethin i’r byd comedi Cymraeg yn allweddol ac arloesol, gan roi llwyfan i ddatblygu talentau stand-yp yn yr iaith Gymraeg am flynyddoedd lawer,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant y sianel.
“Roedd yn angerddol ac yn flaengar dros gomedi. Mae diolch mawr iddo am ei gyfraniad gwerthfawr.”
Bu’n gweithio ar gyfresi comedi i S4C ers y 1990au, ac yn ddiweddar hefyd fe fu’n cynhyrchu’r gyfres Prosiect oedd yn cynnwys cyfweliadau hir gyda Rhys Ifans, Ioan Gruffydd ac Ed Holden.
Mae’r gyfres stand yp Gwerthu Allan yr oedd Gethin yn gyfrifol am ei chynhyrchu yn cael ei hail ddangos ar S4C ar hyn o bryd, gyda rhai o’r comediwyr newydd a phrofiadol yr oedd e wedi eu helpu a’u datblygu yn perfformio.