Amber Davies, o Ddinbych a'i phartner Kem Cetinay, yn Love Island Llun: ITV2
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi canmol y defnydd o’r Gymraeg ar raglen Love Island ar ITV2.
Mae dynes o Gymru ymhlith pedwar cwpwl fydd yn ymddangos ym mhennod olaf y gyfres heno.
Yn y rhaglen nos Sul, roedd y ddawnswraig, Amber Davies, 21, o Ddinbych wedi bod yn dysgu rhai geiriau Cymraeg i’w phartner Kem Cetinay.
Yn ystod eu saith wythnos ar yr ynys, mae Kem Cetinay wedi dysgu termau Cymraeg gan gynnwys “ti’n iawn” ac “mae’n bleser cyfarfod a chi”.
A phan wnaeth Kem Cetinay gwrdd â rhieni ei gariad, dywedodd wrthyn nhw yn Gymraeg: “Dw i mewn cariad gyda’ch merch.”
Mae’r rhaglen ar gyfartaledd yn denu tua dwy filiwn o wylwyr bob pennod, a heno am 9yh mi fydd y cyhoedd yn penderfynu pa gwpwl fydd yn gadael yr ynys â gwobr £50,000.
Amber Davies a Kem Cetinay yw’r ffefrynnau i ennill, yn ôl adroddiadau. Mae’r cyplau eraill yn cynnwys Marcel Somerville a Gabby Allen, Camilla Thurlow a Jamie Jewitt, a Chris Hughes ac Olivia Attwood.
Braf clywed Cymraeg
“Mae wastad yn braf gweld a chlywed mwy o Gymraeg ar y teledu, yn enwedig ar raglen annisgwyl fel hon,” meddai, Victoria Wood Thomas, o Sir Ddinbych, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Wrth gwrs, unwaith bod y cyfrifoldebau dros ddarlledu wedi cael eu datganoli i Gymru, gawn ni lawer mwy o’r Gymraeg ar y teledu, y radio a phob math o gyfrwng.
“Wedyn, ni fydd defnydd y Gymraeg yn eithriad ar ambell i raglen neu un sianel deledu, ond hi fydd yr iaith normal yn y cyfryngau yng Nghymru.”