Jodie Whittaker (Llun: Anthony Devlin/PA Wire)
Jodie Whittaker fydd y Doctor Who benywaidd cyntaf erioed.
Daeth y cyhoeddiad am olynydd Peter Capaldi gan y BBC ar ôl gêm derfynol y dynion yn Wimbledon.
Hi fydd y trydydd doctor ar ddeg ar gyfer y gyfres sy’n cael ei chynhyrchu yng Nghaerdydd, a bydd hi’n ymddangos yn barhaol ar ôl y rhifyn Nadoligaidd eleni.
Roedd Peter Capaldi ymhlith y rhai oedd wedi bod yn galw am ddoctor benywaidd, ond roedd e wedi crybwyll enw Frances de la Tour.
Ond roedd Jodie Whittaker ymhlith y ffefrynnau ar gyfer y rôl, ynghyd â Phoebe Waller-Bridge, Michaela Coel, Tilda Swinton a Natalie Dormer.
‘Dim byd i’w ofni’
Dywedodd Jodie Whittaker na ddylai unrhyw un “ofni” y ffaith mai cymeriad benywaidd fydd y Doctor Who nesaf.
“Mae’n teimlo’n hollol ysgubol, fel ffeminist, fel dynes, fel actor, fel bod dynol, fel rhywun sydd o hyd yn gwthio’i hun ac yn herio’i hun, a pheidio â chael eich cau y tu fewn i’r hyn y dywedir y gallwch chi fod neu na allwch chi fod.
“Mae’n teimlo’n anhygoel.
“Oherwydd mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn, ac mae Doctor Who yn cynrychioli popeth sy’n gyffrous am newid.
“Mae’r cefnogwyr wedi byw trwy gynifer o newidiadau, a dim ond un newid newydd, gwahanol yw hwn, ac nid yn un i’w ofni.”
Gyrfa Jodie Whittaker
Daeth Jodie Whittaker i amlygrwydd yn y ffilm Venus ac mae hi wedi cael rhannau blaenllaw yn y ffilmiau St. Trinian’s a St. Trinian’s 2, ac Attack the Block.
Ar y teledu, mae hi wedi ymddangos yn y cyfresi Tess of the D’Urbervilles, Wired, Return to Cranford, Marchlands, Black Mirror, Broadchurch, The Assets a Trust Me.
Llinell amser Doctor Who
Y deuddeg Doctor Who hyd yn hyn yw:
- William Hartnell (1963-66)
- Patrick Troughton (1966-69)
- Jon Pertwee (1970-74)
- Tom Baker (1974-81)
- Peter Davison (1982-84)
- Colin Baker (1984-86)
- Sylvester McCoy (1987-89)
- Paul McGann (1996)
- Christopher Eccleston (2005)
- David Tennant (2005-2010)
- Matt Smith (2010-2013)
- Peter Capaldi (2013- )