Eve Myles (Faith) sy'n chwarae'r brif ran yn Un Bore Mercher a Keeping Faith (llun: S4C)
Bydd y gwaith ffilmio’n cychwyn yn fuan ar ddrama ddirgelwch Gymraeg a Saesneg sydd wedi ei lleoli yn Sir Gaerfyrddin.

Un Bore Mercher yn y Gymraeg a Keeping Faith yn y Saesneg yw’r cyd-gomisiwn drama diweddaraf rhwng S4C a BBC Cymru, a bydd rhan helaeth o’r ffilmio’n digwydd o gwmpas Talacharn.

Mae’r stori’n adrodd hanes Faith (Eve Myles), cyfreithiwr, gwraig a mam, a’i brwydr i fynd at wraidd diflaniad sydyn ac annisgwyl ei gŵr. Daw i ddarganfod fod y dref hardd, sy’n hafan delfrydol iddi hi a’i theulu, hefyd yn gwarchod cyfrinachau tywyll sy’n fygythiad i’w dyfodol.

Ar drywydd y gwir, mae Faith yn troi’n dditectif di-gyfaddawd – yn brwydro er mwyn ei theulu ac i ddarganfod y gwir. Am y tro cyntaf, mae hi’n fodlon wynebu perygl a chymryd risg, ac yn dod o hyd i nerth sy’n ei sbarduno.

Cywaith

Mae’r ddrama’n gywaith rhwng yr awduron Matthew Hall (Kavanagh QC) ac Anwen Huws (Gwaith Cartref, Pobol y Cwm). Ymhlith y cast mae actorion poblogaidd yn cynnwys Matthew Gravelle (35 Diwrnod, Y Gwyll/Hinterland, Broadchurch), Mali Harries (Y Gwyll/Hinterland), Mark Lewis Jones (Byw Celwydd, Stella, National Treasure) ac Aneirin Hughes (Y Gwyll/Hinterland).

Wedi’i ariannu gan S4C, BBC Cymru a thrwy Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau, Llywodraeth Cymru, bydd yr holl olygfeydd yn cael eu saethu ar leoliadau o amgylch Cymru gyda’r gwaith ôl-gynhyrchu hefyd yn digwydd yma yng Nghymru.

Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys Drama S4C: “Ry’ ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddangos Un Bore Mercher yn gyntaf ar S4C yn yr hydref. Mae’r stori yn ein tywys ar daith llawn cyffro ac emosiwn fydd yn cyffwrdd â’r galon ac hefyd, ar adegau, yn gynnes ac yn gwneud i ni wenu.”

Ychwanegodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru: “Mae’n newyddion gwych ein bod yn cael drama wreiddiol wedi ei chreu yma yng Nghymru, sy’n cael ei chynhyrchu gan y dalent orau â’u gyrfaoedd yn eu hanterth.”