Bydd Tom Jones yn dychwelyd i fod yn un o feirniaid rhaglen deledu The Voice pan fydd y gyfres newydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ar ITV.

Roedd y canwr 76 oed yn feirniad ar y rhaglen pan oedd yn cael ei ddarlledu ar y BBC ond dangosodd y Gorfforaeth ei gardiau iddo yn 2015.

Yn dilyn pum cyfres ar BBC One, mae ITV erbyn hyn wedi prynu’r hawliau i fersiwn gwledydd Prydain o The Voice a bydd y gyfres yn dychwelyd i’r teledu yn gynnar y flwyddyn nesa’.

Bydd Syr Tom Jones ar y panel o feirniaid gyda’r actores a’r gantores Jennifer Hudson a’r seren roc a chanwr Bush, Gavin Rossdale.

Bydd y canwr a chynhyrchydd will.i.am hefyd yn feirniad – yr unig un i fod yn feirniad ym mhob cyfres.