Bu farw’r actores, Caroline Aherne, yn 52 mlwydd oed. Roedd hi wedi bod yn diodde’ o ganser.

Roedd hi fwya’ adnabyddus am greu’r gyfres gomedi, The Royle Family, a hi oedd y tu ôl i’r cymeriad dychanol, Mrs Merton, a’i sioe holi. Roedd hi hefyd wedi bod yn rhan o dîm y gyfres sgetsys The Fast Show.

Fe ddaeth y cadarnhad am ei marwolaeth heddiw gan yr asiantaeth a fu’n edrych ar ôl ei buddiannau. Bu farw gartre’ yn Timperley, Manceinion, yn 52 oed.