Fe fydd casgliad o eitemau gwahanol yn cael eu cyhoeddi ar sianel YouTube newydd gan S4C, PUMP, fel rhan o’u harlwy fisol ar-lein.

Bydd y cynnwys hefyd yn cael ei ddangos ar wefannau cymdeithasol yn y gobaith y gall y sianel gyrraedd mwy o bobol ifanc rhwng 16 a 35 oed, sef carfan sy’n llai tebygol o geisio mynediad i gynnwys trwy ddulliau mwy traddodiadol.

Ymhlith y cynnwys fydd ar gael mae eitemau comedi, cyfresi teithio ac adolygiadau teledu a ffilm.

Arbrawf tri mis

Bydd cyfres ‘5 Elena’ gan Elena Cresci, newyddiadurwyr gyda’r Guardian, sylwadau gan Huw Bryant o Landysul ar y cyfryngau Cymreig, a rhaglen banel ymhlith y rhaglenni fydd yn cael eu cynnig.

“Ein bwriad yw ymgysylltu efo cynulleidfa iau yn y Gymraeg, rhai sydd efallai ddim yn ymwneud a chynnwys ar lwyfannau traddodiadol,” meddai Pennaeth Datblygu Digidol S4C, Huw Marshall.

“Mae’r gyfres hon yn benodol ar YouTube ac mi rydym ni’n edrych ymlaen at weld sut ymateb cawn ni.”

Mae PUMP wedi’i gomisiynu am dri mis i gychwyn.