Y Prifardd Christine James, un o'r rheiny sydd wedi derbyn ysgoloriaeth eleni
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgan enwau’r ugain o awduron a fydd yn derbyn Ysgoloriaeth i Awduron eleni.
Bwriad yr ysgoloriaethau, gwerth cyfanswm o £70,000, fydd galluogi’r awduron i ganolbwyntio ar ysgrifennu creadigol penodol, neu alluogi ymchwil a theithio sy’n gysylltiedig â’r gwaith ar y gweill.
Ers 2004 mae Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu dros £1miliwn ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, gan alluogi 292 o awduron i ddatblygu eu gwaith mewn ystod o feysydd.
Yr awduron sy’n derbyn ysgoloriaethau ar gyfer eu gwaith yn y Gymraeg eleni yw Llion Jones, Aled Jones Williams, Christine James, Martin Davis a Sian Northey.
Barddoni am y bêl
Bydd Sian Northey yn mentro i dir newydd, ac yn canolbwyntio ar ysgrifennu nofel ar ffurf cyfres o gerddi, ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau cynnar.
Mae’r Prifardd a’r trydarwr cynganeddol, Llion Jones ar y llaw arall am gyfuno rhai o’i brif ddiddordebau, sef barddoniaeth a phêl droed, wrth iddo ddilyn hynt a helynt tîm Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016.
Bydd Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig yn caniatáu i’r Prifardd Christine James gymryd amser i ffwrdd o’i gwaith er mwyn canolbwyntio ar greu gwaith creadigol estynedig newydd, a bydd Aled Jones Williams yn ysgrifennu nofel newydd, yn dwyn y teitl Nostos.
Bwriad Martin Davis yw canolbwyntio ar gwblhau nofel gyfoes newydd wedi’i lleoli yn Amwythig a’r cyffiniau, sy’n ymdrin â themâu megis colled a hiraeth, a phrofi gobaith a hapusrwydd o’r newydd.
‘Gwledd o gynnwys newydd’
Ymhlith yr awduron sydd wedi derbyn ysgoloriaethau ar gyfer eu gwaith Saesneg mae Rebecca F. John, Natalie Holborow, Megan Hodson, Jonathan Edwards, a Tom Bullough.
“Mae meithrin talent lenyddol wrth wraidd cenhadaeth Llenyddiaeth Cymru ac mae’n fraint i mi fel arbenigwr yn llenyddiaeth Cymru fod wedi derbyn cais i helpu yn y dasg arbennig o werthfawr hon drwy gadeirio’r Panel Ysgoloriaethau,” meddai Katie Gramich, Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru.
Ychwanegodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, eu bod yn “edrych ymlaen at wledd o ysgrifennu newydd o Gymru, gan leisiau newydd yn ogystal ag awduron sydd wedi ennill eu plwyf”.