Y ddiweddar Denise Robertson
Mae modryb ofidiau rhaglen This Morning, Denise Robertson, wedi marw. Roedd hi’n 83 oed ac wedi bod yn dioddef o ganser y pancreas.

Cadarnhaodd y rhaglen ar ITV y newyddion ar ei gyfrif Twitter swyddogol, gan ysgrifennu: “Newyddion trist iawn – mae ein ffrind a’n cydweithwyr Denise Robertson wedi colli ei brwydr fer ond penderfynol yn erbyn canser.”

Yng nghanol mis Chwefror, fe gyhoeddodd Denise Robertson ddatganiad yn egluro ei habsenoldeb o’r rhaglen fel hyn: “Mae’n flin gennyf nad ydw i wedi bod o gwmpas am rai wythnosau ond mae problem iechyd barhaus wedi datblygu i fod yn rhywbeth mwy. Rwyf wedi cael diagnosis bod canser y pancreas arnaf.”

“Hoffwn ddiolch i holl wylwyr This Morning sydd wedi bod yn pryderu am fy iechyd yn ddiweddar, a gobeithiaf y byddaf yn ôl ar y soffa cyn hir,” meddai bryd hynny.