Bydd Rhodri Owen, Mari Grug a Llinos Lee yn “parhau i fod yn aelodau pwysig iawn” o dîm cyflwyno rhaglenni Tinopolis.

Yn dilyn cyhoeddi set a chyflwynwyr newydd Heno ddydd Llun (Ebrill 22), bu nifer yn cwestiynu a fyddai’r tri yn parhau gyda’r rhaglen gan nad oedden nhw yn y lluniau cyhoeddusrwydd.

Yn ôl Tinopolis, bydd y tri yn parhau i gyflwyno gyda’r tîm ond mewn modd ychydig yn wahanol, gyda Rhodri Owen a Llinos Lee i’w gweld ar Heno gan amlaf, a Mari Grug ar Prynhawn Da.

Mwy o bwyslais ar gyfraniadau a gohebydd adloniant

Cafodd y rhaglen ei ail-lansio ar S4C nos Lun (Ebrill 22), a daeth cyhoeddiad bydd Mirain Iwerydd, James Lusted a Paul ‘Stumpey’ Davies yn ymuno ag Elin Fflur, Alun Williams, Owain Tudur Jones ac Angharad Mair ar y tîm cyflwyno.

Y newid mawr arall yw soffa oren newydd, fydd yn disodli’r hen soffa felen.

Er y newidiadau i wedd y rhaglen, fe fydd Heno yn dal i ddod â holl straeon Cymru i’r gwylwyr ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 7 o’r gloch o nos Lun i nos Wener, medd y sianel.

Fe fydd camerâu Heno yn parhau i deithio ledled Cymru bob wythnos, ac yn ymweld â phob cwr o’r wlad, gan gynnwys Hen Golwyn, Abertawe, Pen Llŷn, y Rhondda, Wrecsam a mwy.

Un o’r newidiadau eraill yw rôl rhai o’r cyflwynwyr, eglura Tinopolis.

“Roedd Mari yn cyflwyno’r rhaglen gyntaf o Prynhawn Da o’r set newydd, gyda Siân Thomas yn cyflwyno heddiw.

“Bydd Rhodri hefyd yn rhan o’r cyflwyno, er fe fydd yn bennaf yn gweithio fel gohebydd adloniant i Heno yn dod â’r straeon mawr o fyd adloniant.

“Mae ganddo sgwrs ecsgliwsif gyda Ruth Jones heno.

“Mae Llinos hefyd yn parhau i fod yn aelod pwysig o’r tîm.

“Roedd yn fyw neithiwr ar Heno ar y noson gyntaf o Abertawe, ac fe fydd yn fyw eto nos Iau o Dreorci, gyda mwy o bwyslais nag o’r blaen ar gyfraniadau byw yn fwy o ran o’r rhaglen yn ei chyfanwaith, yn hytrach nag un pwt byw.”

Cyflwynwyr a set newydd i ‘Heno’ ar S4C

Bydd Mirain Iwerydd, James Lusted a Paul ‘Stumpey’ Davies yn ymuno ag Elin Fflur, Alun Williams, Owain Tudur Jones ac Angharad Mair