Dyma gyfres newydd lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C, gan ddweud pa raglen sydd wedi eu helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg.
Y tro yma, Mark Pers, sy’n byw ger Manceinion, sy’n adolygu’r rhaglen gerdded gystadleuol Am Dro! Mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2021. Dechreuodd ddysgu gyda Duolingo, ac mae’n astudio cwrs Canolradd ar-lein trwy Popeth Cymraeg ar hyn o bryd. Mae’n dweud: “Mae gwylio S4C yn ffordd wych a hwyliog o gysylltu â’r iaith.”
Mark, beth ydy dy hoff raglen ar S4C?
Dw i’n mwynhau llawer o raglenni ar S4C, yn enwedig y chwaraeon. Fodd bynnag, un o fy hoff raglenni ar S4C ydy Am Dro!
Pam wyt ti’n hoffi’r rhaglen?
Mae’n braf gweld cymaint o dirluniau hardd Cymru, cymeriadau diddorol ac ychydig o hanes Cymru hefyd. Dw i’n hoffi gweld llefydd, trefi a phentrefi dw i ddim wedi gweld o’r blaen.
Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr?
Mae’r adroddwr, Aled Samuel yn ddoniol iawn – mae ganddo synnwyr digrifwch sych. Dydy o ddim yn hoffi egos mawr!
Pam fod y rhaglen yn dda i bobol sy’n dysgu Cymraeg?
Mae’r fformat yn syml iawn, felly does dim rhaid i chi dreulio lot o amser yn ceisio gweithio allan beth sy’n mynd ymlaen. Mae hyn yn golygu dach chi’n gallu canolbwyntio ar beth mae pobol yn dweud.
Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?
Mae gan y rhaglen bobol o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan, felly mae yna lawer o acenion a thafodieithoedd gwahanol. Weithiau mae yna ddysgwyr yn cymryd rhan, ac mae’n ysbrydoledig eu gweld nhw’n rhyngweithio â siaradwyr rhugl.
Faset ti’n awgrymu i bobol eraill wylio’r rhaglen?
Baswn. Bant â ni, fel maen nhw’n dweud ar y rhaglen yn aml!
Am Dro! Nos Sul, S4C am 8 o’r gloch. Mae hefyd ar gael ar S4C Clic.
Bydd cyfres newydd yn dechrau ar Fehefin 30.