Bydd un o raglenni dyddiol BBC Radio 2 yn cael ei darlledu tu allan i Lundain am y tro cyntaf, a hynny yng Nghaerdydd.
Owain Wyn Evans fydd yn lansio’r Early Breakfast Show fis nesaf, gan gyflwyno’n fyw bob dydd o ganolfan ddarlledu BBC Cymru yn y brifddinas.
Mae’r cam yn rhan o strategaeth Ar Draws y Deyrnas Unedig y BBC, sef cynlluniau a gafodd eu cyhoeddi yn 2021 i ehangu presenoldeb y corff dros bob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Y nod drwy symud cynyrchiadau tu allan i Lundain yw adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu pob rhan o’r wlad yn well, meddai.
‘Croesawu’r diwrnod’
Bydd sioe frecwast Owain Wyn Evans yn dechrau ddydd Llun, Chwefror 13 rhwng 4 a 6:30 y bore.
“Diolch byth, fi’n dderyn y bore, ond dw i dal wedi prynu cloc larwm ychwanegol rhag ofn!” meddai’r cyflwynydd.
“P’un a ydych yn codi’n gynnar, yn gweithio shifft neu’n aros i fyny’n hwyr… ymunwch â mi am gerddoriaeth wych a sgwrs fach dda o bencadlys BBC Cymru, a byddwn yn croesawu’r diwrnod gyda’n gilydd.”