Mae cystadleuaeth newydd wedi’i chreu er cof am ddau o arwyr y sîn roc Gymraeg, ac mewn ymgais i hybu bandiau ifanc newydd mewn tair sir.

Mae Gwobr Goffa Richard a Wyn (Ail Symudiad) yn gystadleuaeth i unrhyw fand neu artist sy’n gymharol newydd, ac yn dod o Geredigion, Sir Gaerfyrddin neu Sir Benfro.

Roedd Ail Symudiad yn fand arloesol ac yn un o’r rhai cyntaf o’r ardal i chwarae roc pync.

Cymraeg fydd iaith y perfformiadau, a gall bandiau neu artistiaid cymharol ifanc gystadlu heb fod terfyn oedran.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hermon, ym mhentref Hermon ger Crymych, a gall perfformiadau gynnwys canu neu ganu offeryn, gyda’r set i bara dim mwy na chwarter awr.

Bydd yr enillydd yn cipio Tlws Her Goffa Richard ac Wyn, £200 a chyfle i berfformio yng Ngŵyl Fel ‘Na Mai eleni, fydd yn cael ei chynnal yng Nghrymych ar dir Frenni Transport.

Y beirniaid yw Dafydd ac Osian Jones, meibion Richard Jones, ynghyd ag Elidyr Glyn (Bwncath) a’r cyflwynydd radio Mirain Iwerydd.

Prinder bandiau ifanc

Mae trefnydd y gystadleuaeth yn credu bod yna brinder bandiau ifainc yn ardaloedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, a bod yr un broblem yn bodoli mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.

“Yn yr ardal hon does dim bandiau ifanc neu newydd yn ymddangos o gwbl,” meddai Dafydd Vaughan wrth golwg360.

“Mae’n iawn i ddweud yr un peth am sawl ardal arall yng Nghymru hefyd.

“Dydy lleoliadau ddim yn rhoi gigs ymlaen gymaint nawr, sy’n gwneud pethau’n anoddach.

“Mae sawl tafarn yn rhoi bandiau ar, ond dydyn nhw ddim yn gigs, dim ond yn fand yn chwarae.”

Bydd cyfle i berfformio yng Ngŵyl Fel ‘Na Mai yn gyfle gwych i yrfa gerddorol band neu unigolyn, yn ôl Dafydd Vaughan.

Bydd Mirain Iwerydd (Radio Cymru 2) yn cyflwyno, a Bwncath hefyd yn chwarae, ac mae 1,500 o docynnau ar werth ar gyfer yr ŵyl.

“Rydym yn gobeithio cael bandiau neu artistiaid newydd i ddechrau a rhoi hwb i’w gyrfa gerddorol,” meddai Dafydd Vaughan wedyn.

“Mae gŵyl yn eu helpu nhw gyda’r broses o symud ymlaen os maen nhw eisiau dechrau off.

“Llynedd roedd yr ŵyl am y tro cyntaf a gwerthon ni allan ac roedd 1,000 o docynnau.

“Rydym wedi rhoi’r drwydded fyny i 1,500 eleni.”

Bydd y wobr ariannol yn gyfle i brynu offer cerddorol neu recordio mewn stiwdio hefyd, meddai.

“Os maen nhw’n dechrau, efallai byddant angen offer newydd, amp newydd, gitâr, meicroffôn neu beth bynnag.

“Os maen nhw eisiau mynd mewn i recordio cân mewn stiwdio, bydd hynny’n costio siŵr o fod mwy na £200.

“Mae’r wobr yma’n gyfle gwych iddyn nhw o ddechrau off.”

Mae rhagor o fanylion ar y wefan www.felnamai.co.uk neu drwy e-bostio dafydd@mentersirbenfro.com

  • Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Neuadd Hermon, Sir Benfro ar Ddydd Miwsig Cymru ar Chwefror 10