Bydd y dangosiad cyntaf o ffilm newydd Star Wars yn cael ei ddangos heno mewn tair theatr  yn Los Angeles.

Dyma fydd un o ddangosiadau ffilm mwyaf Hollywood gyda phobol yn gwersylla y tu allan i’r sinemau ers dros wythnos i gael cyfle am docyn i weld Star Wars: The Force Awakens.

Bydd sêr y ffilm, gan gynnwys y cast gwreiddiol yn 1977, Mark Hamill, Carrie Fisher ac Harrison Ford yn ymuno â’r cyfarwyddwr ac un o awduron y ffilm, JJ Abrams ar y carped coch.

Mae mesurau diogelwch llym mewn grym o amgylch y TCL Chinese Theatre, y Dolby Theatre, sy’n gartref i’r Oscars, a’r El Capitan Theatre lle fydd y ffilm yn cael ei dangos.

Ar ôl y dangosiad cyntaf heno yn Los Angeles, bydd The Force Awakens yn cael ei dangosiad cyntaf yn Llundain ar 16 Rhagfyr a bydd yn y sinemâu dros y wlad ar 17 Rhagfyr.