Dilyniant i’r ffilm cwlt o’r 1990au, The Crow, fydd y ffilm gyntaf i gael ei gwneud yn stiwdios newydd Pinewood yng Nghaerdydd.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones wrth iddo ymweld a’r stiwdio 180,000 troedfedd sgwâr heddiw.

Cafodd The Crow wreiddiol, sy’n ffilm arswyd, ei ryddhau yn 1994 ac mae’n adnabyddus wedi i’r prif actor Brandon Lee – mab yr actor ac arbenigwr ymladd Bruce Lee – farw yn ystod y ffilmio.

Dywedodd Ivan Dunleavy, prif weithredwr Grŵp Pinewood, ei fod yn falch fod y stiwdio newydd yn cael dechrau calonogol.

Er fod cast The Crow heb gael ei gyhoeddi eto, mae Pinewood wedi dweud y bydd y ffilmio’n dechrau’n fuan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi tua £0 miliwn o gyllid tuag at y stiwdio ond mae disgwyl i’r busnes gynhyrchu £90 miliwn i’r economi yn ogystal a chreu dros 2,000 o swyddi dros y pum mlynedd nesa’.

Rhagor o ffilmiau

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: “Mae Pinewood wedi ymrwymo i ffilmio rhagor o ffilmiau yn yr adeilad hwn yn y dyfodol.

“Os allwn ni greu clwstwr o arbenigedd bydd hynny’n denu mwy a mwy o fusnesau yn yr ardal honno o arbenigedd – dyna sut ddechreuodd Hollywood.”

“Ddeng mlynedd yn ôl, ni fyddai hyn wedi digwydd. Mae’n arwydd ein bod ni’n mynd allan ac yn gwerthu Cymru.

“Mae’r wlad yn cael enw da fel man lle mae’r sgiliau hyn yn cael eu defnyddio, a lle ar gyfer busnesau yn y diwydiant creadigol.”

Mae Pinewood wedi bod yn gartref i fwy na 1,500 o ffilmiau dros 75 mlynedd, gan gynnwys James Bond a chyfres ffilmiau Carry On.