Fe fydd pobol y Gorllewin a’r Canolbarth yn cael un o’u cyfleoedd ola’ i roi barn am raglenni S4C yn rhan o ymgyrch haf y sianel.
Fe fydd S4C yn mynd i Lanbed ar gyfer Gŵyl Golwg dros y Sul, gyda’r ymgych ‘S4C – Eich Dewis Chi’ – sydd hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod y sianel Gymraeg bellach i’w chael mewn llawer o wahanol ffyrdd.
Mae sesiynau digidol Y Cwmwl yn rhan bwysig o’r ŵyl ar gamps Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbed ac fe fydd y sianel yn pwysleisio eu bod yn datblygu sianel YouTube i ddangos darnau bychain o raglenni.
Maen nhw hefyd yn datblygu nifer o apiau gwahanol, gan gynnwys rhai i ddysgwyr a phlant bach.
Teithio trwy Gymru
Fe fu Eich Dewis Chi yn teithio trwy Gymru ers y Sioe Fawr ym mis Gorffennaf a Gŵyl Golwg yw’r digwyddiad ola’ sydd wedi ei drefnu hyd yma yn y Gorllewin.
Mae un o gyflwynwyr y sianel, Mari Lovgreen, yn cymryd rhan yn noson gynta’r Ŵyl heno – noson gomedi Golwg Go Whith yng nghlwb rygbi Llanbed – ac fe fydd hi ar stondin S4C yn y brif ŵyl ddydd Sul.
“Mae’n holl bwysig ein bod ni’n gwrando ac yn siarad gyda’n cynulliedfa a’r cyhoedd yng Nghymru’n fwy cyffredinol,” meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones. “R’yn ni am godi ymwybyddiaeth o faint o gyfleoedd sydd i weld ein rhaglenni.”