Faith Penhale (Llun: BBC)
Daeth cyhoeddiad neithiwr y bydd drama newydd ar gyfer BBC 1 yn cael ei chynhyrchu yng Nghymru yn dilyn y newyddion na fydd y gyfres Merlin yn cael ei hailgomisiynu.
Fe fydd y gyfres ffantasi newydd, Atlantis, yn cael ei ddarlledu yn yr hydref gan ail-ddychmygu storfa o chwedlau Groegaidd “ar gyfer cenhedlaeth newydd”.
Bethan Jones, un o gyn benaethiaid Pobol y Cwm, fydd y cynhyrchydd gweithredol ar ran BBC Cymrugyda sgript Howard Overman yn cael ei ffilmio yng Nghymru a Morocco, gan ddechrau ym mis Ebrill.
‘Rhaglen berffaith’
Dywedodd Faith Penhale, Pennaeth Drama BBC Cymru: “Mae sgriptiau Howard yn rhyfeddol o dda ac Atlantis yw’r rhaglen berffaith i lenwi’r bwlch a adawyd gan Merlin.
“Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau y gyfres gyffrous newydd ac rydym wrth ein bodd bod BBC Cymru yn parhau i fod yn gartref i ddrama teuluol nos Sadwrn.”
Dyma ail gomisiwn newydd BBC Cymru ar gyfer drama wreiddiol o dan arweiniad Faith Penhale – y llall yw drama am ysbiwyr yn y rhyfel oer, The Game, a fydd yn dechrau ffilmio yn hwyrach eleni.