Grwp sianti y Fisherman's Friends
Mae aelod o grwp sianti y Fisherman’s Friends a gafodd ei anafu’n ddifrifol mewn damwain a laddodd reolwr y band, hefyd wedi marw yn yr ysbyty.
Roedd Trevor Grills, 54, wedi diodde’ anafiadau difrifol i’w ben pan gafodd ei daro gan ddrws metel a syrthiodd am ei ben yn ystod cyngerdd G Live yn Guildford, Surrey, ddydd Sadwrn.
Fe fu farw rheolwr y band o Gernyw, Paul McMullen, yn y fan a’r lle, wedi diodde’ anafiadau gwael i’w goesau. Fe gafodd Mr Grills ei gludo i Ysbyty’r Sant Siôr yn Tooting, Llundain, ond bu farw neithiwr.
Mewn datganiad, mae’r band yn talu teyrnged i Trevor Grills fel “ffrind annwyl a gwerthfawr”. “Rydyn ni i gyd wedi torri’n calonnau,” meddai llefarydd.